Books Should Be Free is now
Loyal Books
Free Public Domain Audiobooks & eBook Downloads
Search by: Title, Author or Keyword

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar   By: (1885-1960)

Book cover

First Page:

Adgof dedwydd am a fu Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.

CERDDI'R MYNYDD DU

sef

CANEUON HEN A DIWEDDAR

WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y

PARCH. W. GRIFFITHS

(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.

GYDA DARLUNIAU GAN

MR. LLEW MORGAN.

ABERHONDDU: Argraffwyd gan ROBT. READ, yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark. 1913.

CYNWYSIAD.

Cyflwyniad With Droed y Mynydd Du Adgofion Mebyd Llynau'r Giedd Shon Wil Khys Pen y Cribarth Yn y Mawn ar ben y Mynydd Bugail y Mynydd Du Hela'r Twrch Trwyth Afon Giedd Ffaldau Moel Feity Y Llynfell Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam O'r Niwl i'r Nef Gwilym Shon Llyn y Fan (Gwatwargerdd) Ffrydiau Twrch Angladd ar y Mynydd Du Y Gof Bach Ffynon y Brandi Dafydd y Neuadd Las Cyw Llyn y Fan Ar y Banau Breuddwyd Adgof Cân y Dwyfundodiaid

Illustrations

G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . Frontispiece

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 0 flynyddoedd.

Bryn Y Groes.

Mynwent Cwmgiedd.

Gored Y Giedd.

Trem I'r Mynydd Du.

Cwmgiedd (Rhan Isaf).

Ffynon Y Cwar.

Pont Ynys Twlc.

Penparc.

Llocior'r Defaid.

Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn Y Fan Fawr.

LLyn Y Fan.

[Illustration: Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.]

[Illustration: Bryn Y Groes.]

CYFLWYNEDIG

1

GRIFFITH DAVIES, Ysw.,

SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.

At foneddwr brodor glân, Lyfr bychan, dos a'th gân, Nid oes genyf anrheg well Iddo ar Gyfandir pell Na'r caneuon syml hyn Cerddi bro ei faboed gwyn.

Yma gwelodd gynta'r byd, Giedd suai gwsg ei gryd, Yn ei dyfroedd laslanc llon Dysgodd gyntaf nofio'r don, Ar ei glanau yfai ddysg, Yn ei llynau daliai'r pysg.

Am flynyddau wedi hyn Cerddai'r fro, a dringai'r bryn. Anturiaethus fu ei daith I'r pellderoedd lawer gwaith; A chyfrinach anian gu Glywodd ar y Mynydd Du.

Myn brodorion yr Hen Wlad Adrodd beunydd mewn mwynhad Am ei deithiau yma a thraw Gyda'i lyfr yn ei law; Hoffai wybod meddwl dyn, Meddwl Duw yn fwy na'r un.

Haf a gauaf, tes a gwynt, Carai fyn'd i'r Capel gynt, Rhoes ei ddawn yn offrwm byw Ar allorau sanctaidd Duw; Casglodd yma fanna bras, Canodd yma gerddi gras.

I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu, Yn yr Ysgol, athraw cu; Ei ddisgyblion dros y byd Dystiant am ei wersi drud, Hauodd ef ar lawer dol, Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.

Diwrnod yn y cwmwl trwm Ydoedd hwnw yn y Cwm Aeth a'r delfryd lanc di ail Tua gwlad machludiad haul; Yn y cwmwl nid oedd gwên, Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.

Mae blynyddau maith er hyn, Newid sydd ar fro a bryn; Hen gyfoedion wedi myn'd, Nid oes mwy ond ambell ffrynd, Yntau fry ar dyrau llwydd Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.

Daw hanesion dros y dón, Hanes glân fel ewyn hon, Hanes calon eang, hael, Fedra roi mor llon a chael, Hanes bywyd sydd a'i fryd Beunydd i brydferthu byd.

Frodor anwyl, hoff yn awr Ganddo gofio llwybrau'r wawr, Mae y Mynydd Du o hyd Iddo'n gyfrinachau'i gyd, Salmau'r neint sydd ar ei glyw Mynydd ei Wynfydau yw.

Lyfr bychan, dos a'th gân Drosodd i'r boneddwr glân; Nid oes genyf anrheg well Iddo ar Gyfandir pell Na'r caneuon syml hyn Cerddi gwlad ei faboed gwyn.

G. AP LLEISION.

Wrth Droed y Mynydd Du.

'Roedd blodau ar y dyffryn, A Mai o dan y coed, Yn chwareu gyda'r awel Yn lion ac ysgafn droed: Fe ganai y fwyalchen Ar gangen las uwchben, Heb wrando cyfrinachau serch Y ddau oedd dan y pren... Continue reading book >>




eBook Downloads
ePUB eBook
• iBooks for iPhone and iPad
• Nook
• Sony Reader
Read eBook
• Load eBook in browser
Text File eBook
• Computers
• Windows
• Mac

Review this book



Popular Genres
More Genres
Languages
Paid Books