GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II. [Picture of Mynyddog: myn0.jpg] RHAGAIR. Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y mynydd trwy'n cymoedd? Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,-- "Rwy'n caru hen wlad fy nhadau Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl, Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau Gyda than yn y gan yn eu gwyl." Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog. Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach. Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn. Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd. Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd hwynt er eu mwyn eu hunain. Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw. OWEN M. EDWARDS. Llanuwchllyn. DARLUNIAU. Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool. MYNYDDOG PEN Y MYNYDD "O dewch tua'r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai." Y MELINYDD. "'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr A droir gan ffrwd y nant." MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR. Y GOF. "Yng nghanol haearn, mwg, a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu can O fawl i'w wlad a'i iaith." AWEL Y BORE. "A charu 'r wyf yr awel wynt A hed dros Gymru gu." HEN GAPEL LLANBRYNMAIR. "Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam." MYNYDDOG. [Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg] HEN ADGOFION. O na chawn fynd yn ol ar hynt Drwy'r adeg ddedwydd, iach, I brofi y breuddwydion gynt Pan oeddwn blentyn bach; Cawn syllu eilwaith oriau hir Ar flodau gwanwyn oes, Ac ail fwynhau ei awyr glir Heb gwmwl du na loes. O na chawn dreulio eto'n llawn Yr adeg lon, ddi-gur, Pan gylch fy llwybrau fore a nawn 'Roedd blodau cariad pur; Nid yw ond megis ddoe o'r bron Im gofio ienctid ffol; Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron, Ddaw'r adeg byth yn ol. CHWI FEIBION DEWRION. (Geiriau i'r "Marseillaise.") Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, Clywch, clywch yr udgorn croch o draw, Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau A'i gleddyf gloew yn ei law; Mae dagrau baban gwan a'r weddw Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad, Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad O dan ei chlwyf ymron a marw; Ymlaen! ymlaen i'r gad, Dadweinied pawb ei gledd, Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad I ryddid neu i'r bedd! Ystormydd rhyfel sy'n ymruo, Yr holl awyrgylch sydd yn ddu, Mae cledd dialedd wedi deffro, Gwae, gwae i'r holl elynol lu; Ni allwn edrych ar gelanedd Estroniaid yn arteithio'n gwlad, Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; Ymlaen! Deffroed ysbryd hyf ein teidiau I danio mynwes ddewr pob dyn, Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un; Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu, Ond sych dy ddagrau, Walia Wen, Mae seren gobaith uwch dy ben, Daeth cledd Llywelyn i'th waredu. Ymlaen! CYMRU, GWLAD Y GAN. Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,-- Ai diliau glwys, ai dolydd glan, Ai gwastad diroedd heb eu hail, Yn dwyn eu blodau teg a'u dail? Na, na, nid dyna'r harddwch sydd Yn teg addurno Gwalia rydd. Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan? Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan, Clogwyni serth a chreigiau ban, A harddwch. Eden ym mhob man! Ac O! mae yno fwthyn cu Sy'n werth palasau'r byd i mi. Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen Yn pwyntio i fyny tua'r nen, Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd Yn eiddo dewrion Cymru rydd; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron. Mae adsain bloedd y dewrion fu, Heb farw rhwng ein bryniau cu, Ac ysbryd ym mhob awel wynt Yn adrodd hanes Cymru gynt; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron. SIOM SERCH. Daeth ef i geisio denu'r ferch, A phlannu'i galon yn ei bron; Cyn iddi ddysgu pwyso serch, Fe ddysgodd garu'r llencyn llon; Aeth ef a'r lili dyner, wen, Oedd ar ei bron, angyles ne, A phlannai'n ol ar galon Gwen Hardd rosyn cariad yn ei lle. Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr, Ei geiriau mel a'i gwenau drud, Rhodd iddo hefyd galon fawr Yn llawn o gariad byw i gyd; Cydwylai hi fel gwlith y nef Pan wylai ef o dan ryw gur, A chwarddai pan y chwarddai ef, A'r cyfan er mwyn cariad pur. Ond oerodd bron y llanc cyn hir, Ac ymaith aeth gan adael hon, Heb feddwl fawr fel treiddiai cur Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron; Diangai gobaith teg ei wawr 'Run fath a'r lili oddiar y ferch, Gan adael iddi hi yn awr Wywedig ros twyllodrus serch. TARO YR HOEL AR EI PHEN. Mae ambell i saer gyda'i forthwyl Yn taro yr hoelen yn gam, Ac ambell i un sydd mor drwsgwl A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam; Ond hyn sydd yn iawn a dymunol, Pan godi dy forthwyl i'r nen, Gofala wrth daro, 'n wastadol, I daro yr hoel ar ei phen. Mae llawer areithiwr go ddoniol, 'Nol dodi y testyn i lawr, Yn dwedyd pob peth amgylchiadol, Heb son am ei destyn am awr; Siarada mor ddiflas a phlentyn, A thry wyn ei lygaid i'r nen, Paham nad ai'r dyn at ei destyn, A tharo yr hoel ar ei phen? Aeth bardd i wneud pryddest anghomon, A'r testyn oedd ci Ty'n y March, Dechreuodd yng nghwymp yr angylion, A'r cwn aeth at Noah i'r arch; 'Rol canu pum mil o linellau, Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen; Paham na bae beirdd y pryddestau Yn taro yr hoel ar ei phen? Aeth llencyn am dro gyda'i gariad, A soniai mor braf oedd yr hin, A'i bod hi mor bethma yn wastad Os na fyddai'r tywydd yn flin; Pam na fuasai'r llelo anghelfydd Yn gofyn addewid gan Gwen, A siarad am fodrwy lle'r tywydd, A tharo yr hoel ar ei phen? Ebrill 19, '75. CYMRU FU, A CHYMRU FYDD. "I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt O faesydd gwaedlyd Cymru gynt, I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd, Ar creigiau'n clecian gan y floedd; Er treiglo am fil o oesau chwith, Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth; Mae fel yn adsain nos a dydd, Mai "Cymru fu a Chymru fydd." Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu Fe dyfa blodau cariad cu; "I'r gad" yn awr heb saeth na chledd, "I'r gad" dan faner glaerwen hedd; Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw, Ac arfau rhinwedd ar bob llaw; Pelydra heulwen hanner dydd Ar Gymru fu a Chymru fydd. PERTHYNASAU'R WRAIG. Mi wnes beth unwaith yn fy oes Na wnaf mo hono mwy, Priodais gyda geneth lan, Y lanaf yn y plwy; Mi wyddwn eisoes fod gan hon Berthnasau yn y byd, Ond chydig a feddyliais am Briodi'r rhain i gyd; Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c. Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd I droi i mewn i'r ty, I gael ymgom am hanner awr O hanes dyddiau fu, Cyn dechreu siarad gylch y tan, Na phrofi unrhyw saig, Fe gymer imi hanner awr I introdiwsio'r wraig. Dyna'i hewyrth, &c. Mi eis i'r dref yn fore ddoe Yng nghwmni Sion y Graig, A dyma'm hunig neges i Oedd prynnu watch i'r wraig; Pan rois yr oriawr yn ei llaw, Dywedai 'mhen rhyw hyd,-- "A brynsoch chwi ddim pob 'i watch I'm perthynasau i gyd?" Prynnu watch i'r lot i gyd? Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn, Dechreuais fynd o 'ngho', A dywedais yn fy natur ddrwg Na wnai hi byth mo'r tro; Dechreuai 'i thafod hithau fynd I drin a hel o hyd, Ac nid yn unig hi ei hun, Ond unai'r lleill i gyd. "Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c. Medi 13, '75. GORNANT FECHAN. (Goethe). Gornant fechan, loew, dlos, Treiglo'r wyt y dydd a'r nos; Beth yw'th neges? Beth yw'th nod? I ble yn mynd?--O ble yn dod? "'Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw, 'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw, Gan dynnu darlun ar fy mron O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon. "Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd, Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd; Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith. Mai 18, 1877. Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF. Mae ambell aderyn lled fychan, Mae ambell aderyn lled fawr, Mae rhai yn ehedeg yn uchel, Ac ereill yn ymyl y llawr; Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg I ymyl y lleuad mor llon, A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion I hedeg 'run dwylath o'r bron; Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd, Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd. Os gwelwch ysgogyn go wyntog Yn chwyddo'n anferthol o fawr, O'r braidd y mae gan ei ysgafnder Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr; 'Does ryfedd ei fod yn ymgodi I fyny fel pluen i'r nen, 'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced, Na gronyn o bwysau'n ei ben. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Ceir ambell i eneth benchwiban Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes, Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl, Ysgafnder yw nodwedd ei hoes; Nid rhaid iddi bluo ei bonnet, Na llenwi ei gwallt gyda charth, Mae digon o bluf yn ei henaid I'w chario i amharch a gwarth. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad, Ysgafnder sydd yno'n mhob man, Ynghanol brefiadau y lloiau Mae'n codi yr uchaf i'r lan; Mae Satan yn pluo adenydd Rhai dynion i'w codi am awr; Ond cofiwch mai eu codi mae Satan Er mwyn cael eu taro i lawr. Ond dyma'r gwirionedd, &c. Medi 24, '75. PURDEB. (Arddull T. Carew). Y sawl a fynn y rudd sydd goch A gwefus gwrel, llygad du, Y gwddw gwyn, y rhosawg foch I gynneu fflam ei gariad cu,-- Daw amser hen i wywo'r gruddiau, A diffydd fflam ei lygad yntau. Ond y meddwl tawel, pur, Gyda ffyddlon dwyfron lan, Calon gara fel y dur, Hyn sy'n cynneu bythol dan; Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall. DDAW HI DDIM. Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt, Yn destyn gwawd y plwy, Awn gyda phawb yn llon fy hyttt, Pwy bynnag fyddent hwy; Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr, 'Rwy'n edrych llawn mor llym, A rhoddaf daw ar fach a mawr Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim." 'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw Benthyca pres yn ffol; Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw Ddim byth yn talu'n ol; Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef Wrth fyned tua'r ffair, Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref Am fenthyg tri a thair. Ond os ceisia dyn, &c. Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi Y gwyddai hanes merch, A wnaethai'r tro i'r dim i mi I fod yn wrthrych serch; Gwraig weddw oedd, yn berchen stor O bopeth, heb ddim plant, A chanddi arian lond dwy dror, Ac yn ddim ond hanner cant. Ond os ceisia dyn, &c. Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy, Ar bwynt priodi un; Cyn mynd at allor llan y plwy, Fel hyn gofynnai'r fun,-- "Mae gennyf fam a phedair chwaer Sy'n anwyl iawn gen i, A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer, I gyd fyw gyda ni?" Ond os ceisia dyn, &c. AWN, AWN I'R GAD. (Canig gan Gwilym Gwent). Awn, awn i'r gad, Awn, awn yn awr; Awn dros ein gwlad, Awn, awn yn awr; Calon y dewr Gura yn gynt, Baner a chledd Sy'n chwyfio yn y gwynt; Blaenor y llu Sy'n arwain i glod, A geiriau o dan O'i enau yn dod. Seren y goncwest sy'n gwenu fry Dros ein hanwyl wlad; Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni. EISTEDD MEWN BERFA. Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod, A'r haul yn tywynnu mor llon, Mi ddaethum 'nol hir bererindod I bentref ar ochr y fron; A gwelwn ryw hogyn segurllyd Yn eistedd mewn berfa fel dyn, Gan wneud pob ymdrechion a allai Ar ferfa i yrru ei hun; Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain Yn gadael ei fwyall neu'i ordd, I sefyll tu allan i'w weithdy I siarad a phawb ar y ffordd; Neu holi am weithdai'r gymdogaeth A hanes y gweithwyr bob un, Heb feddwl am weithio ei hunan Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun; Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Ceir ambell amaethwr dioglyd Na welwyd erioed arno frys, Mae'n well ganddo orwedd pythefnos Na cholli dyferyn o chwys; Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf Tra'r haul yn tywynnu ar fryn, Ond creda mewn gadael ei feusydd I ofal y gweision a'r chwyn; Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Pan welir masnachydd neu siopwr Yn gadael eu masnach trwy'r dydd, I ofal prentisiaid a chlercod, Nid 'chydig y difrod a fydd; Ond odid na chlywir yn fuan Am feili yn dod i roi stop, A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;" Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Mawrth 2, '76. Y FRWYDR. Clywch, clywch Y fyddin yn dod i'r gad, Uwch, uwch Y cenir i gledd ein gwlad; Calon a chleddyf i gyd yn ddur, Rhyddid yn rhoi Gelynion i ffoi O flaen ein gwyr. Clywch y tabwrdd yn awr Yn adseinio sydd, Clywch floedd fychan a mawr Wedi cael y dydd; Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir, Daw haul ar ein gwlad Mewn hwyl a mwynhad, Cawn heddwch cyn hir. ENWAU. Mi ganaf gan mewn cywair llon, Os gwrendy pawb yr un, Rhyw gan ar enwau ydyw hon, Ond heb gael enw ei hun; Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir, Ar hogiau bychain, man, Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir Trwy Gymru yw Sion a Sian,-- Sian Jones, &c. Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen Fod Taffy i'r back bones, Am alw plant hen Gymru wen Yn John a Jenny Jones; Mae Smith a Brown a John a Jane Yn Lloegr bron mor llawn, Ac O! mae enwau'r Saeson glan Ag ystyr ryfedd iawn. 'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw Yn High Street Number Ten, Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg Mae'n Meistar Ochor Pren; 'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw Ym mhalas Glan y Rhyd, Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg, Mae'n Sgwiar Pren i Gyd. 'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon A geir yng Nghymru iach, Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John, A'r wyr yn Johnny bach; A galw mam y wraig yn Sian, A'r wraig yn Jeanny ni, A galw'r wyres fechan, lan, Yn Jeanny No. 3. Sian Jones, &c. Chwef 10, '74. YR HEULWEN. (Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans). Daw yr heulwen a'i gusanau, Iechyd chwardda yn y gwynt, Cymyl sydd fel heirdd lumanau Bron a sefyll ar eu hynt; Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd, Dwyn cusanau'r haul yn llu, Ar ein bochau gwridog beunydd, I addurno cartref cu? Dringwn fry i gartre'r hedydd, Chwarddwn, neidiwn megis plant, Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd Yng ngrisialaidd ddwfr y nant; Canwn gerddi a dyriau, Casglwn flodau gwyllt y wlad, Ac mi gadwn y pwysiau Harddaf oll i'n mam a'n tad. FFUGENWAU. Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad, Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad; Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro, A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh; Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed, Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed. Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn, Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn, A llewod ac arthod, eryrod a brain, Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain. Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan, A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan, Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen, A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen; Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs, A'i blastro ag enw fel label ar focs. Mae Eos y Weirglodd, &c. Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don, Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon, Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir, Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir; 'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad, A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad. Mae Eos y Weirglodd, &c. Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son, Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon, Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys, A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys, A chyda'r rhai yna daw Morris-- Llanfairmathafarn eithaf Rhosllanerchrugog, Llanrhaiadr Mochnant, Hugh, A William Carey Williams a Dafydd-- Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll Dysilio gogo goch Pugh. Ebrill 29, '76. FY NGHALON FACH. Fy nghalon fach, paham mae'r wawr I'w gweld fel hwyr y dydd, A'r hedydd llon uwchben y llawr, A'i gan mewn sain mor brudd? Ateba fy chwyddedig fron,-- Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn. Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi, A'r rhew a'r eira'n dod, Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi Er oered yw yr od; Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol Fod rhywun hoff yn dod yn ol. TYSTEBAU. Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau, A'r oes 'rydym ynddi yn byw, Fe'i gelwir yn oes y peiriannau, Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw; Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau I chwiban dan fynydd a bryn, 'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau Y dylid ei galw er hyn. Os bydd dyn yn myned o'i ardal, Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr, Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal I rwymo ei draed wrth y llawr; Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi, Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn, Ceir tysteb am gysgu'n y gwely, Os pery tystebau fel hyn. Gwneud tysteb o nod genedlaethol A wneir i bob crwtyn yn awr, Argreffir colofnau i'w ganmol, A'i godi'n anferthol o fawr; Mae'r gair cenedlaethol yn barod,-- A helpo y genedl, a'r gair, Er mwyn cael cyfodi corachod A llenwi eu llogell ag aur. Mae mul yn hen felin Llanodol, 'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn, A honno'n un wir genedlaethol, Am gario ar ei gefn lawer pwn; Paham na chai dysteb ragorol I'w rwystro am byth gadw nad? Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol, A haedda ei weld gan y wlad. Mae'n cario yr yd mor ddigyffro Dros fynydd, a dyffryn, a dol, Ac wedyn caiff eisin i'w ginio I aros i'r blawd fynd yn ol; Rhag c'wilydd i genedl y Cymry Am fod eu syniadau mor gul, Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri I gychwyn y dysteb i'r mul. Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid, O! clywch ef yn codi ei gri, Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i; Oferedd im' fyddai ei ganmol, Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd, Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,-- Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd. Ebrill 29, '76. RHOWCH BROC I'R TAN. Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw, A dioddef eich gwlychu a'ch curo Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw; 'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan, Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy, A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan, A'r cariad a'r tan yn y ty; Rhowch broc i'r tan, A chanwch gan, I gadw cwerylon o'r aelwyd lan. Pan fyddo y gwr wedi monni, A'i weflau'n lled lipa i lawr, A'i lygaid gan dan yn gwreichioni, A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr; Edryched y gwragedd dan wenu, A pheidiwch dweyd gair wrtho fe, Daw amser a'r gwr at ei ganu, A'r gweflau a'r llygaid i'w lle. Rhowch, &c. Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau Yn edrych yn sarrug a sur, A'u llygaid fel cwmwl taranau Yn lluchio y mellt at y gwyr; Mae cariad yn well yn y diwedd Ar ol bod mewn helbul ei hun, 'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd Erioed wedi lladd yr un dyn. Rhowch, &c. Pan fyddo yr aelwyd yn oeri, A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed, Pan fyddo y trwyn wedi rhewi, A'r winrhew ar fysedd y traed, Pan fo Catherine Anne wedi briwo, A Dafydd y gwas ddim yn iach, A'r babi yn nadu a chrio, A'r gath wedi crafu John bach, Rhowch, &c. Ion. 3, '73. MI SAETHAIS GAN. (O Longfellow). Mi saethais gan i fyny i'r ne', A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple, Can's ni fu 'rioed un llygad llym All ddilyn saeth ar hediad chwim. Anadlais gan i wynt y ne', Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple, Oblegid nid oes llygad glan All ddilyn llwybrau adlais can. 'Mhen blwyddau hir mewn calon pren Y saeth a gefais ar ei phen, A'r gan a gefais wedi mynd A glynu i gyd mewn calon ffrynd. WELWCH CHWI FI? Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V, A chan arno hefyd cyn clywed f'un i; Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist, Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust; Os na fydd y gan o un diben i chwi, Trowch yma a sylwch a welwch chwi V. A welwch, &c. Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro, A balchder a hunan yn byw arno fo, Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr, A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar; Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri, A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V. A welwch chwi V, Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?" Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen, A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon, A phluen ar hynny i fyny fel ffon; Prin gwelir y top heb gael telescop cry', Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?" A welwch chwi fi? Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?" "A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr, "A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr; Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs, Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri, Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?" A welwch chwi V? Y galon yw cartref y "Welwch chwi V," Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V." Awst 24, '72. "WILLIAM." " * * * Her lover died, and she wept a song over his grave." Ddoi di yn ol ataf, William, William, Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti? Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon, William, William,--anwyl i mi. Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William, Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti; Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar, William, William,--anwyl i mi. Cofio yr wyf am y dyddiau hynny, Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry; A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu? William, William,--anwyl i mi. Nid oeddwn yn deilwng o honot, William, Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di; Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod, William, William,--anwyl i mi. Estyn dy law i mi, William, William,-- Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry, Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William; William, William,--anwyl i mi. [Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant, Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg] GEIRIAU LLANW. Mae llawer o hen eiriau llanw I'w cael ym mhob Llan a phob lle, Yn debyg i bethma a hwnnw, Fel tau ac fel tase, yn te, Yn te meddai'r dyn sydd yn holi, Fel tase, yn te, meddai'r llall, Yn ddigon a gwneud dyn i daeru 'Dyw hanner y byd ddim yn gall. Fel tau, fel tase, yn te, Ofnatsen gynddeirus, yn te, Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma Fel tase, fel tau, yn te. Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd, A llawer o siarad a stwr, A phawb fel pe tae yn dywedyd Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr." Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon, Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle, A'r enw roir yno ar feddwon Yw "chwil ulw beipan" yn te. Fel tau, &c. Os ewch tua Meirion a morol, Cewch giasag i fynd ar ei thraws, A ciariad, a ciarag, a cianol, A ciamu, a ciamfa, a ciaws; Ac yno fel pobman trwy'r gogledd, Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle, Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd, Yn te ydyw'r bethma yn te. Fel tau, &c. Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu, 'Run siwt mae hi obry yn awr, Mae pawb gan ta pun ar ei oreu Yn dishgwl yn ffamws i lawr; Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan, Yn whleia a'u giddil o hyd, Wy'n sposo taw dyna y bachan Sy'n cwnni yn awr yn y byd. Fel tau, &c. Chwef., '73. GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI. (EMYN). Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd, Ar liniau Mair mewn natur dyn, Ac ar y groes cymerai'n gwawd A'n beiau trymion arno'i hun; Clyw ein gweddi, Geidwad cu, Gwrando'n rasol ar ein cri. Dros bechadur, rhedai'n lli Waed a dwfr, o'i anwyl fron. Dyma'r ffynnon! Boed i ni Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon; Clyw ein gweddi, Geidwad cu, Gwrando'n rasol ar ein cri. Y MEDLEY CYMRAEG. Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd, Pan ganai yr adar yn felus a llon, Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd, A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn, 'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu, A nesais i weled pwy ydoedd y ferch, A gwelwn Ferch Megan ei hun Mor iached a'r rhosyn, A'i llygaid yn dan o fywyd a serch; 'Roedd adar y llwyn Yn tewi i wrando Er clywed y gan a ganai fel Hen ferch yn gwau ei hosan, Ar hyd y nos, A'i gweill bach glic glic yn clecian Ar hyd y nos, Canai'r gath ar ben y pentan, Canai hithau ganig ddiddan, Tra y canai'r gwynt tu allan Ar hyd y nos; Rhedai'i meddwl tra yn canu At wroldeb yr hen Gymry Pan oedd gwaedlyd y gyflafan, Gan wyr Harlech ruthrent allan Nes adseiniai bryniau anian Floedd y rhain i'r gad; Benyr grogent ar hen greigiau, A neuaddoedd y mynyddau Ail ddywedent y bloeddiadau Dros ein hanwyl wlad; Rhuthrent tua'r dyffryn, Gledd yng nghledd a'r gelyn, Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed Ynghanol braw a dychryn, Nes y Gelyn giliai ar Nos Galan, Fa la la, &c., Ac aeth pawb i'w fwth ei hunan, Fa la la, &c., Tynnu diliau tannau'r delyn, Fa la la, &c., Wnaent i'w gilydd heb un gelyn, Fa la la, &c. Chwef. 18, '72. DYCHWELIAD Y MORWR. Trwy'r tonnau y llong ddaw yn nes i'r lan-- Dacw y foel a dacw y fan; 'Rwy'n gweld y pant a'r gornant gu, 'Rwy'n gweld y coed, 'rwy'n gweld y ty; Mae adlais anwyliaid yn dod i'r llong, A swn hen gloch y llan, ding dong. DYSGWCH DDWEYD "NA." Fe ddysgir dweyd llawer o eiriau Na ddylid dim dysgu eu dweyd, Ac hefyd anghofir rhai geiriau Y dylid eu dysgu a'u gwneud; Beth bynnag a ddysgwch wrth ddysgu yr iaith, Beth bynnag a gofiwch drwy droion y daith, Faint bynnag o eiriau a ddysgwch yn dda, Gofalwch bob amser am ddysgu dweyd "Na;" Dysgwch ddweyd "Na," 'Does dim sydd mor ddiogel a dysgu dweyd "Na." Os gwelwch chwi gwmni afradlon Yn mynd i oferedd yn ffol, Gan wawdio rhinweddau'u cymdogion, A gadael pob moesau ar ol; Mae trwst y rhai yma wrth gadw eu rhoch Mor wag a diafael ag adsain y gloch, 'Ran hynny, mae pennau y clychau a rhain Yn wag fel eu gilydd, 'blaw tafod bach main; Ac os daw y giwaid hon rywdro i geisio tynnu rhai o honoch i ddinistr, Dysgwch ddweyd "Na," &c. Os gwelwch chwi eneth brydweddol Yn gwisgo yn stylish dros ben, Cyn son am y pwnc priodasol, Rhowch brawf ar gynhwysiad ei phen, Os ffeindiwch chwi allan wrth chwilio'r fath yw, Ei bod hi fel clomen o ran dull o fyw, A'i llygaid, a'i gwddw, a'i haden, a'i phlu', Yn loewach o lawer na dim sy'n ei thy, Ac os bydd rhywun o honoch am roi cynnyg ar Miss, Dysgwch ddweyd "Na," &c. Mae gennyf un gair i'r genethod Wrth ddechreu eu taith drwy y byd, Mae llanciau ar brydiau i'w canfod Heb fod yn lan galon i gyd; Mae'n bosibl cael gwr fydd a'i galon yn graig, Mae'n bosibl cael gwr fydd yn gas wrth ei wraig, Heb gym'ryd yn bwyllus, mae'n bosibl i Gwen Gael gwr heb na chariad, na phoced, na phen, A'r cyngor sydd gennyf i'r ladies (hynny yw, os na fyddant, dyweder, oddiar 35 oed), Dysgwch ddweyd "Na," &c. GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG. Doed holl drigolion daear lawr I ateb llef y nef yn awr, Nes byddo tan eu moliant hwy Yn eirias mwy i'r Iesu mawr. Dyma'r un oddefodd bwysau Holl bechodau dynol ryw, Ac o'i fodd oddefodd loesau Miniog gledd dialedd Duw; Ac a ddrylliodd deyrnas angau Pan y daeth o'i fedd yn fyw. OWEN TUDUR. {39} (Cantawd). Mae Owen Glyndwr yn ei fedd, Ar ol tymhestlog ddiwrnod, A'r gwaed a erys ar ei gledd I ddweyd ei hanes hynod; Y rhosyn gwyllt wrth glywed hyn Ar fedd y gwron hwnnw Sydd fel rhyw angel yn ei wyn Yn gwenu dros y marw. Dewch, delynorion, cenwch don Ar ol cael hir orffwyso, Mae gwr yn byw'n Mhenmynydd Mon A gyfyd Gymru eto; Er fod priddellau Cymru wen Yn feddrod i'w thrigolion, Hil Cymro glan fydd bia'r pen Gaiff eto wisgo'r goron. Dyma delyn anwyl Cymru, Dyma fysedd eto i'w chanu, Er fod gormes bron a llethu Ysbryd pur y gan; Byw yw'n hiaith a byw yw'r galon Gura ym mynwesau'n dewrion, Mae gan Gymru eto feibion A'u teimladau'n dan; Pan fo'r cledd yn deffro, Ac eisiau llaw i'w chwyfio, Mae hon i'w chael o oes i oes Wrth ysgwydd hael pob Cymro. Fflamia'i lygad, chwydda'i galon, Pan y gwel ormesdeyrn creulon, Cadw'i wlad rhag brad yr estron Yw ei bennaf nod; Mae llwch ein hanwyl dadau, Sy'n nghadw dan garneddau, Yn dweyd yng nghlust pob Cymro dewr Am gadw ei iawnderau; Ac mae'n bryniau uchel beilchion, A'n hafonydd gwyllt a gloewon, Yn rhoi awgrym cryf mai rhyddion Ydym byth i fod. Y GENNAD,-- At bendefigion Cymru Sy'n hannu o uchel fon, Mae gennyf genadwri O blas Penmynydd Mon; Cynygiodd Owen Tudur Ei galon gyda'i law I Catherine, y frenhines, Mae hithau'n dweyd y daw. Os na ddaw rhyw atalfa, Priodant yn ddioed, Mae'r ddau mor hoff o'u gilydd Ag unrhyw ddau fu 'rioed; Ai tybed bydd 'run Cymro, Pan ddaw y dydd i ben, Heb roi hawddamor iddo Nes crynno'r Wyddfa wen? PENDEFIG,-- Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig Yn berwi yn fy mynwes, 'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad Wrth wrando ar yr hanes; Mae gwaed brenhinol Brython hyf Yn curo'n mynwes Owen, A dylid cadw hwn mor bur Ag awyr Ynys Brydain. PENDEFIG ARALL,-- Gadewch rhwng cariad a Rhagluniaeth A phriodi dynol ryw, Mae gwaed y Sais a gwaed y Cymro Bron 'run drwch a bron 'run lliw; Feallai bydd yr uniad yma, Pan ry'r olwyn dro i ben, Yn agor ffordd i gerbyd heddwch Dramwy drwy yr Ynys Wen. Gwened blodau gwylltion Cymru Ar eu modrwy loew dlos, A boed haul yn gwenu arni, Gwened lloer a ser y nos; Gwened Sais a gwened Cymro, Na foed gwg ar unrhyw ael, A gwened nef uwch law y cyfan, Mae gwen o'r nef yn werth ei chael. PENDEFIGES,-- Heblaw gweniadau'r lleuad wen, A gwenau'r haul o fynwes nen, Heblaw gweniadau'r nefoedd fry, Cant wen rhianedd Cymru gu; Boed meibion Gwalia ddydd yr wyl Yn dyrchu banllef lawn o hwyl, Anadlwn ninnau weddi wan I glustiau'r nefoedd ar eu rhan; Pob bryn fo'n dal ei faner wen, Pob cloch fo'n canu nerth ei phen, Ni daenwn ninnau flodau fyrdd A dail byth-wyrddion ar eu ffyrdd. CYDGAN,-- Mae gwawr yn torri dros sir Fon, A Chymru'n gwenu arni, Mae swn llawenydd yn y don, A diolch yn y weddi; Mae'r clychau'n effro ym mhob llan Yn prysur ddweyd y newydd, A'r awel fach yn gwneud ei rhan I'w gludo draws y gwledydd. Y BARDD,-- Methodd Owen Glyndwr rwymo Teimlad pawb mewn rhwymau hedd, Megis tonn mewn craig yn taro Oedd dylanwad min ei gledd; Ond mae Owen Tudur dirion Wedi uno'r ynys lon, Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson Wenu'n nghylch y fodrwy gron. CYDGAN,-- Chwyther yr udgorn ar lethrau'r Eryri Nes bo'r clogwyni'n dafodau i gyd, Bannau Brycheiniog fo'n llawn o goelcerthi Er mwyn gwefreiddio y wlad ar ei hyd; Llonned y delyn bob treflan a phentref, Heded y cerddi ar ddiwrnod yr wyl, Ar flaen adenydd alawon y Cymry, Nes bo pob ardal yn eirias o hwyl. Fe gwympodd ein gwrolion Wrth gadw hawl ein coron, Rhag iddi fynd o Walia Wen I harddu pen rhyw estron. Mae llef oddiwrth y meirw Sy'n dweyd yn ddigon croew, Yn adlais glir ar lan pob bedd, Na fedrai'r cledd mo'i chadw. Deallodd Owen Tudur Athroniaeth bennaf natur, Ein coron trwyddo ef a gawn Heb nemawr iawn o lafur. CYDGAN,-- Mae modrwy a chariad yn curo y cledd Heb aberth o fywyd nac eiddo, Ca'r bwa a'r bicell gyd-huno mewn hedd, A heddwch ac undeb flodeuo; Teyrnwialen a choron ein hynys bob pryd A ddelir gan hil meibion Gwalia, A chryma teyrnwiail brenhinoedd y byd Yn ymyl teyrnwialen Britannia. Ar ddydd y briodas cenhinen y Cymry Wisgwyd gan Owen i harddu ei fron, A rhosyn y Saeson osodwyd i harddu Bron ei anwylyd edrychai mor llon; A byth wedi hynny mae'r ddau'n un blodeuglwm, Mae'r rhos a'r genhinen yn harddu'r un fron; Bu bysedd dwy genedl yn gosod y cwlwm, A thyfa y ddau yn y fodrwy fach gron. Os hoffech gael gwybod effeithiau'r briodas, Holwch briddellau maes Bosworth yn awr, Yno coronwyd dymuniad y deyrnas, Ac yno y syrthiodd gormesdeyrn i lawr; Mae adsain y fanllef fuddugol trwy'r oesau Yn gwibio o glogwyn i glogwyn trwy'n gwlad, Bydd clod Harri Tudur a dewrder ein tadau Ar ol y fath ymdrech mewn bythol fawrhad. Esgynnwn i'n mynyddau, A holwn hen garneddau Sy'n cadw llwch ein tadau Ar ol blinderus hynt; Ateba'u llwch o'r beddau Fod gwaed ar hyd eu llwybrau, A myrdd o orthrymderau Yn blino Cymru gynt. Ond wedi i'r Tuduriaid Gael dod yn benaduriaid, Cyduna'r holl Brydeiniaid I ufuddhau i'w pen; Mae aeron per y blodau Yn tyfu'n meusydd brwydrau, A heddwch lond calonnau Hen deulu'r Ynys Wen. Ar orsedd bena'r ddaear, Dan goron hardda'r byd, Eistedda Buddug hawddgar Dan wenau'r nef bob pryd; Mae gwaed brenhinol Owain Yn llifo trwy'r llaw sydd Yn dal teyrnwialen Prydain Uwchben miliynnau rhydd. Y fesen a blanwyd ar ddydd y briodas Dyfodd yn dderwen gadarna'n y byd, Dau begwn y ddaear yw terfyn y deyrnas, A chariad yn rhwymo y deiliaid ynghyd; Gogledd a deau sy'n dangos eu miloedd O ddeiliaid i orsedd Victoria a dwng,-- "Mae gan ein Brenhines ddigonedd o diroedd I'r llew mawr Brytanaidd i ysgwyd ei fwng." Na foed adseiniau'n cymoedd Yn cael eu deffro mwy I ateb swn rhyfeloedd Ar hyd eu llethrau hwy; Tywysog gwlad y bryniau A ddalio tra bo byw, Yn noddwr i rinweddau Dan nodded llaw ei Dduw. Y DDRAENEN WEN. Eisteddais dan y ddraenen wen Pan chwarddai bywyd Ebrill cu Mewn mil o ddail o gylch fy mhen, A myrdd o friall o bob tu; Eisteddai William gyda'i Wen, Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw, Tra canai'r fwyalch uwch ein pen Ei chalon yn ei chan i Dduw; Rhoi William friall ar fy mron, A modrwy aur yn llaw ei Wen; Mi gofiaf byth yr adeg hon Wrth eistedd dan y ddraenen wen. IFAN FY NGHEFNDER. Dyma godl yn dwbl odli; 'E wnes y prawf o ran spri. Aeth Ifan fy nghefnder yn ysgafn ei droed, Ryw noson i hebrwng ei Fari; A phan wrth y gamfa sy'n troi at Ty'n Coed, Fe daflodd ei fraich am ei gwarr hi. Ond cyn iddo prin i gael amser i ddweyd,-- "Pa bryd caf dy weled di eto?" Na gwybod yn hollol pa beth oedd o 'n wneud, Aeth awel o wynt gyda'i het o. A phan oedd o 'n rhedeg a dim am ei ben, I geisio, a ffaelu dal honno, Fe welai ar ol dod yn ol at ei wen Fod y ci wedi dianc a'i ffon o. Heb hidio rhyw lawer am het nag am ffon, Siaradai a Mari'n ddi-daro; Ond cyn iddo ddechreu cynhesu ei fron, Fe drawodd rhyw stitch yn ei warr o. "A ddoi di, f'anwylyd," dywedai yn syn, "I chwilio am fodrwy'n ddioedi?" Ac er mwyn rhoi sel ar ddywediad fel hyn, Fe sangodd y brawd ar ei throed hi. "A wnei di roi ateb, O Mari, fy mun?" A'i gruddiau ddechreusant a chochi; Ac Ifan nesaodd at Mari fel dyn, A rhoddodd ddau gus ar ei boch hi. Wrth weled rhyw hyfdra fel hyn yn y brawd, Ni ddarfu'r cusanu ei swyno; Dywedodd "Nos da" gyda dirmyg a gwawd, A rhedodd i ffwrdd dan ei drwyn o. Aeth Ifan i'r gwely yn sobr a syn, A dwedai fel dyn wedi monni,-- "Gwyn fyd na f'ai serch rhyw hogenod fel hyn Yn cadw am byth o fy mron i." Er hynny, tae Mari'n dod heibio ei dy, Ac Ifan ar ganol breuddwydio; Mae cariad yn meddu atyniad mor gry', Ni synwn un blewyn na chwyd hi o. YR HWN FU FARW AR Y PREN. Yr Hwn fu farw ar y pren Dros euog ddyn o'i ryfedd ras, O! agor byrth y nefoedd wen I'n dwyn uwchlaw gelynion cas. Y diolch byth, y clod a'r mawl Fo i'r anfeidrol Un yn Dri, Gwna ni yn etifeddion gwawl Y Ganan nefol gyda Thi. [Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg] CHWEDL Y TORRWR BEDDAU. Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen, A natur gan oerfel yn colli ei gwen, Fe rewai'r dwfr fel gweren oer, Tra prudd edrychai yr ieuanc loer Cydrhwng canghennau'r coed; Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith, 'Roedd torrwr beddau wrth ei waith; Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon, A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron A'r esgyrn dan ei droed. Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef A fferrai lwynau natur gref, A'r torrwr beddau yn ddifraw, Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw, Besychai am ryw hyd, Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin; 'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him, Ac yna fe dynnodd ryw botel gron O'i logell,--ond potel wag oedd hon; A churai 'i ddaint ynghyd. Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr," Y dafarn hyna'n y dref yn awr, Fe chwyrnai'r tegell ar y tan, A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lan Tra'n gorwedd ar gefn y ci. 'Roedd mab yr yswain yno mor hyf, Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf, A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer, A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer, Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad Yn siarad a dau neu dri. Y torrwr beddau edrychai'n glau, A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau, Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd, 'Doedd ryfedd fod arno fo flys;-- "Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,-- "Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn, A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn! Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,' Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr." Ac i mewn ag ef ar frys. Fe wenai pawb wrth ei weled e' Y torrwr beddau yn cymeryd ei le O dan y fantell simnai fawr, (A chwarddai y tan dan ruo'n awr), Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef, O fab yr yswain i'r tlota'n y dref. "Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty, "Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu." 'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad Adroddwr chwedlau yr holl wlad. Fe wyddai am bob yspryd bron Fu'n tramwy hyd y ddaear hon; Fe fedrai ddychryn calon wan, A'i gwneud yn ysgafn yn y fan; Fe allai gau ac agor clwy', A medrai ddynwared pawb yn y plwy'. "Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd, Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd," Ebe gwr y ty yn awr; "Mae stori sych yn ddigon o bla Os na fydd llymaid o ddiod dda Yn helpu y stori lawr." Y CHWEDL. I. Ar nos Nadolig oer a llaith, Ers deugain o flynyddau maith, Bu farw Harri Huws;--'roedd ef Yn cael ei garu gan bawb trwy'r dref. Bu ef i mi yn gyfaill pur. A chalon gywir fel y dur, A diwrnod tywyll, prudd ei wedd, Oedd y dydd rhoed Harri yn ei fedd. Gadawodd eneth ysgafn droed O'i ol,--yn un ar bymtheg oed; 'Roedd iechyd ar ei gruddiau cu, A chwarddai serch o'i llygad du. Bum i yn dysgu'r eneth hon I ddweyd A B yn blentyn llon, Ac wrth ei dysgu, credais i Y dysgai'r ferch fy ngharu fi; Ond ffoledd oedd i'r eneth dirion I feddwl caru hen wr gwirion. Daeth morwr llon i siarad a hi, A dygodd fy Elen oddi arnaf fi, Ond dd'wedais i air erioed wrth hon O'r hyn a deimlais dan fy mron; Na gair yn erbyn y morwr chwaith, Oblegid hwy fuont am flynyddau maith Yn chwareu a'u gilydd fel y mae plant Ar ochr y bryn neu lan y nant; Ond waeth tewi na siarad, ryw noson ddu Aeth y morwr ymaith ag Elen gu! Nis gallaf ddirnad byth er hyn Pa fodd yr aeth bore'i bywyd gwyn O dan fath gwmwl, na pha fodd Y daeth amheuaeth ag y todd Gymeriad oedd mor bur; 'Doedd neb yn meddwl yn y wlad Y buasai impyn tyner, mad, Yn dwyn fath ffrwythau sur. Agorai'r wawr ei hamrant clau, Ac ymaith a fi ar ol y ddau, A digwydd wnaethum fynd 'run ffordd, Tra curai'm calon megis gordd, Dan bwys briwedig fron; Mi cefais hwy. Nis gallaf ddweyd Pa un ai gofid oedd yn gwneud I'm dagrau redeg dros fy ngrudd, Ai ynte ryw lawenydd prudd; Ond rhedeg wnaethant fel y lli' Pan ddaeth y newydd gynta 'i mi Fod Mari'n wraig i John. II. Pan gwrddodd Mari gyda fi, Ei dagrau redent fel y lli; Hi deimlai'n ddedwydd ar un llaw, Ac o'r tu arall, ofn a braw A lanwai'i bron. Hi ddwedai'r oll Oedd yn ei theimlad yn ddigoll; Agorai'i bron, can's roeddwn i Yn gyfaill mebyd iddi hi. Datodai glo ei chalon fawr, A dwedai'i thywydd imi'n awr, A'r fath onestrwydd yn ei phryd Nes teimlwn i'm teimladau i gyd Yn toddi'n llwyr; a gwenau hon A wnaent i minnau wenu'n llon, A gweld ei dagrau'n treiglo'n lli A sugnent ddagrau 'nghalon i. Ond pan yn tynnu tua phen Ei chwedl brudd, fy ngeneth wen A ddwedai, gyda'i llygad du Yn saethu teimlad ar bob tu,-- "O fel yr ofnwn wg fy mam, Yr hon a'm gwyliodd ar bob cam: A balchder gyda thanllyd serch A'i gwnaeth yn ffol uwch ben ei merch. "Priodi a wnaethum heb wybod i mam-- 'Roedd hynny, 'rwy'n addef, yn bechod a cham; Ond beth oedd i'w wneud, a pheth ddaethai i'm rhan, Pan oedd cariad mor gryf, a minnau mor wan? Ni allwn gyfaddef i mam er y byd, Ond wedi priodi, ni aethom ynghyd I ofyn maddeuant ei mynwes dinam, Ond serch wedi'i gloi erbyn hyn oedd gan mam. "Hi allodd gau y drws a'i gloi Ar ol ei merch, a medrodd droi Clust fyddar at fy ymbil taer, A dweyd yng ngolen'r lleuad glaer,-- 'Gan iti fynnu'th ffordd bob cam, A chroesi 'wyllys gref dy fam, Dos gydag ef, yr hoeden ffol, A phaid a dychwel byth yn ol.'" Fe wylai Mari'n hidl fan hon, Agorodd holl argaeau'i bron, A d'wedai,--"'Nawr, fy nghyfaill pur, Cyn darfod adrodd chwedl fy nghur, A wnewch chwi addaw'r funud hon I gloi y chwedl yn eich bron O wydd pob dyn trwy'r byd; Er imi dynnu arnaf gam, Ac er im' ddigio mynwes mam, Fy mam oedd hi o hyd. "Aeth heibio flwyddyn gron, fy ffrynd, A holl dafodau'r lle yn mynd Yn gyflym gyda'm hanes prudd, A mam rhy falch o ddydd i ddydd I geisio clirio'i geneth wen, A cheisiai gadw i fyny'i phen Drwy fynd i'r eglwys yn ei du, Fel pe buasai'i geneth gu Yn gorwedd yn ei thawel fedd, Lle gorffwys pawb mewn hun a hedd." Un noson oer, mewn gaeaf du, Eisteddwn ar fy aelwyd gu, Gan wylio'r marwor mawn a choed Yn syrthio'n lludw wrth fy nhroed, Yn ddrych o ddynion llon eu gwedd Yn goleu i ddiffodd yn y bedd. Fy meddwl grwydrai'n rhydd a ffol. Pan yn ddisymwth o'm tu ol 'Roedd swn cerddediad!--pan y trois, Mi glywn fy enw mewn acen gyffrous, A phwy oedd yno ger fy mron Ond Mari a'i baban ar ei bron! Ei llygaid gloewon, gleision, mawr, A safent yn ei phen yn awr;-- Edrychai i'r tywyllwch prudd Fel pe buasai'n gweld ynghudd Ysbrydion ei mwynderau gynt Yn gwibio o'i chylch ar gyflym hynt! Dechreuai ddweyd ei chwyn a'i chais Mewn math o anaearol lais, A theimlwn fel pe buasai ddelw o faen Yn sefyll,--yn edrych,--a siarad o'm blaen. "Mi eis at ddrws fy mam yr ail waith, Ac eilwaith trodd fi ffwrdd; Yr unrhyw galed, oeraidd iaith, Oedd yno yn fy nghwrdd. "Mi ddaliais hyn fel arwr glew, Can's 'roedd fy nghalon fel y rhew, Ond pan y gwgodd f'anwyl fam Wrth wel'd fy maban baeh dinam, Aeth cleddyf trwy fy mron yn syth-- Mae'r archoll hwnnw yno byth. "Ac am fy ngwr--fy anwyl John, 'Roedd ef ar wyllt bellderau'r donn; Un dydd wrth fynd am dro o'r dref, Ni gawsom ffrae, a ffwrdd ag ef. Nis gallswn weithio yn fy myw, Na phlygu'm glin o flaen fy Nuw; 'Doedd dim ond troi yr adeg hon A'm baban tyner ar fy mron At mam;--ond honno, er fy nghur, Oedd fel y garreg yn y mur. Fy Nuw a wyr fel snddais i O dan ei geiriau cerrig hi; A'r oll o'm serch yr adeg hon Oedd yn fy maban ar fy mron." Fe beidiai Mari lefaru yn awr, A minnau yn edrych yn syn ar y llawr; Ac fel mewn eiliad--'roedd fy ffrynd A'i baban serchus wedi mynd! Deallais wedyn iddi droi Ei gwyneb tua Llundain bell, Pan nad oedd mam na neb i roi I'w mab a hithau gynnes gell. O! pwy all ddweyd na meddwl chwaith Ei theimlad ar y brif-ffordd faith, Heb ddillad cynnes am ei chefn, A'i chalon FU'n llawn serch drachefn, Gan chwerw drallod, honno wnaed Mor oer a'r brif-ffordd dan ei thraed. 'Roedd pob anadliad roddai hon Yn sugno ochenaid ddofn o'r bron, A phob cam roddai 'n tynnu gwaed O'i thyner flin ddolurus draed. O gam i gam, o awr i awr Cyrhaeddyd wnaeth i'r ddinas fawr; Ac ar y palmant caled, oer, Llewygu wnaeth yng ngolau'r lloer. Yr oedd hi'n nos, ac nid oedd neb A sychai chwys ei dwyrudd wleb Heblaw y gwynt, ac ni wnai ef Ond chwiban heibio hyd y dref. Ond pan oreurai'r wawr y ne' Daeth rhyw Samaritan i'r lle, A chodai hi fel delw wen, A rhoddai bwys ei thyner ben Ar fron tosturi,--a'r baban bach A gysgai hun ddiniwaid iach, Ar hyd y nos flinderus faith Ar fron mor oer a'r garreg laith. Aeth ef a'r ddau yn ol i'w dy, A'i wraig drugarog, serchus, gu, A'u hymgeleddai gyda serch A chydymdeimlad calon merch, Gwreichionen olaf bywyd brau Gyneuai'n ol dan law y ddau. Deffroai Mari gyda hyn I gael ei hun mewn gwely gwyn, A gwen trugaredd uwch ei phen Yn edrych ar ei dwyrudd wen. Nid oedd gan wr a gwraig y ty (Lle dodwyd Mari),--blentyn cu, A gall mai dyna'r rheswm pam Y carai'r rheiny gael y fam, Er mwyn cael gwylio'i baban bach Yn tyfu'n llencyn gwridog, iach. Dechreuai'r bychan chwareu'n rhydd, A rhosyn iechyd ar ei rudd, A gweithiai'r fam a chalon rwydd Wrth weld ei gobaith yn ei gwydd Yn tyfu'n hogyn gwyneb crwn, A'i serch ymglymai o gylch hwn. * * * * * Awn heibio i flynyddau maith,-- Fe dyfai'r llanc,--gwnai'r fam y gwaith, Ac ni fu'r blwyddau meithion hyn Heb ambell smotyn hafaidd, gwyn. Edrycha'i llanc yn hoew a chryf, A'i natur fywiog, hoenus, hyf, A godai awydd yn ei fron I fynd yn forwr nwyfus, llon; Dychmygai nad oedd unrhyw ddor Yn agor iddo ond y mor. Fe deimlai'i fam, a theimlai'n flin, Ond ni ddaeth gair dros drothwy'i min, A'r bore ddaeth i'r llanc dinam I rwygo'i hun oddiwrth ei fam. III. Y storm a aeth heibio, a'r dwylaw wnaent gwrdd I gyfarch eu gilydd yn llon ar y bwrdd; "Mae'r cyfan yn fyw," ebe'r Capten yn llon, A diolch a gweddi yn llanw ei fron: "Na!--arhoswch; pa le y mae William ddinam, Y llencyn oedd newydd roi ffarwel i'w fam?" Ond dwedai rhyw un ag ochenaid ddofn, ddofn, "Nid ydwyf yn sicr, ond y mae arnaf ofn Fod drwg wedi digwydd, pan ruai y gwynt, Gan luchio a thaflu y llong ar ei hynt," 'Roedd William yn mrigyn yr hwylbren, hir, praff, Yn ceisio ategu yr hwyl gyda rhaff; Fe ruthrai y gwynt, ac mewn eiliad neu ddwy 'Roedd y llanc wedi myned na welwyd ef mwy. Y tu ol i'r llestr, draw, draw ar y donn, Yn ymladd am fywyd, 'roedd llanc a fu'n llon, A'i obaith a'i nerth ar ddiffygio yn llwyr, A'r t'w'llwch yn dechreu cau amrant yr hwyr; Ar hyn, dacw gwch yn nesau ato ef, A'i hwyliau fel edyn rhyw angel o'r nef; A phan yr oedd William yn suddo i lawr, Wele forwr yn estyn ei ddeheu law fawr I safn y dyfnderau, glafoerllyd, di rol, Gan godi y bachgen i fywyd yn ol. Am oriau bu'n hollol ddideimlad fan hon, Ond rhith weledigaeth oedd fel ger ei fron; Fe welai ei fam yn sylldremio o'r lan, A chlywai'i hochenaid yn esgyn yn wan; A gwelai ofidiau gordrymion a phrudd Yn tynnu eu herydr ar hyd ei dwy rudd; A gwelai ei gartref yn ymyl y nant, A'r pentref, a'r felin, a'r ysgol, a'r plant, Ac yntau ei hunan yn chwareu'n ddinam-- A deigryn yn treiglo o lygad ei fam. Gofynnai'n ei freuddwyd,--"Mam, pam yr ydych chwi Yn wylo eich dagrau cariadus yn lli?" A hithau yn ateb fel hyn yn y fan,-- "'Rwy'n cofio fy machgen yn faban bach gwan, Ac wedyn yn tyfu mewn nerth ac mewn oed I neidio a chwareu o amgylch fy nhroed." Ar hyn daeth rhyw niwl dros ei feddwl yn chwim, A'i fam a ddiflannodd fel cysgod yn ddim; A gwelai len arall yn lledu o'i flaen, A breuddwyd mewn breuddwyd yn agor o'i flaen. Ymhellach yn ol, fe welai ei fam Yn suo a hwian ei baban dinam, Ar hyn, dyna rywun yn cnocio yn hy, A morwr cryf, barfog, yn dyfod i'r ty, A safai cyn dechreu llefaru; Nid hir y bu yno cyn gweled ei wraig, A deigryn a safai ar rudd oedd fel craig, Ymgrymai i roddi ei gusan i hon, A'r cwbl a ddwedodd a'i ben ar ei bron,-- "Fy Mari, O fy Mari!" Ond William ddeffroai yn raddol ar hyn, A bywyd ail wridai ei wyneb gwyn, gwyn, A gwybu yn fuan mai morwr cryf, llon, A'i cipiodd mor wyrthiol o afael y donn; 'Roedd hwnnw ac ereill yn dianc o Ffrainc, Pan oedd yr hen Boni yn llywydd y fainc. A phan y daeth William i fywyd yn ol, 'Roedd y wawr yn ymgodi a'r haul yn ei chol, Gan chwalu y t'w'llwch a'r caddug ar daen, A bryniau hen Gymru 'n ymgodi o'i flaen. Edrychai'n fyfyriol ymlaen tua'r tir, A'i freuddwyd yn gwibio trwy'i feddwl mor glir, A syllai bob 'nail ar y morwr hardd, cryf, Yr hwn a achubodd ei fywyd mor hyf; A chofiai ei freuddwyd, ei gartref, a'r dyn Yn curo y drws, ac yn agor ei hun, Ac nis gall anghofio y dyn yn ei fyw, Wrth weled y morwr yn gweithio y llyw. "Paham yr edrychwch i'm gwyneb o hyd?" Gofynnai y morwr, tra gwrol ei bryd; "Myfyrio yr oeddwn ar freuddwyd tra ffol," Medd William, gan syllu i'r glannau yn ol, "Lle gwelais fy hunan yn blentyn di-nam, Yn chwareu o amgylch i liniau ei fam;-- Lle clywais i rywun yn curo yn hy', A morwr o rywle yn dyfod i'r ty, A synnu yr oeddwn, mor debyg i chwi Oedd hwnnw a welais yn dod i'n ty ni." "Dywedwch i mi," ebe'r morwr yn awr, Gan syllu drwy bellder goleuni y wawr, "A oes gan eich mam lygad glas yn ei phen Sy'n ganmil disgleiriach na glesni y nen? Oes ganddi hi ruddiau, dywedwch yn rhwydd, A wrident yr eira pe bae yn eu gwydd? Oes ganddi hi wallt fel y nos ar ei phen Yn disgyn fel cwmwl ar hyd ei grudd wen? Ond gall, o ran hynny, fod main gennych chwi Yn ateb i'r darlun a dynnir gen i, A mi heb ei gweled mewn llan nac mewn llys, Ond,--welsoch chwi fodrwy ryw dro ar ei bys, A math o lun calon mewn perlau yn hon, A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron?" "Mae gan fy mam lygaid fel glesni y nen, A gwallt sydd fel hanner y nos ar ei phen, Mae harddwch yn byw ar ei gwefus a'i gen, Ac ysbryd serchawgrwydd yn dawnsio'n ei gwen; Ac hefyd, wrth feddwl, mae adgof gen i Am fodrwy 'run fath a'r un hon ddwedsoch chwi, A math o lun calon mewn perlau yn hon, A gwallt yn ei chanol yn ddolen fach gron!" "Ai breuddwyd yw hyn?" ebe'r morwr yn rhydd, A'i deimlad a'i galon yn neidio i'w rudd, "Ai'm mab a achubais o afael y donn? Ai delw fy Mari yw'r llygad byw, llon, A welaf o'm blaen? 'Rwyf yn diolch i'r Nef, Mae Mari yn fyw, a fy machgen yw ef!" IV. "Roedd annedd fy Mari a minnau a'r ddor A'i gwyneb i waered at lan y mor, Ac ni fu dedwyddach dau yn y byd Na Mari a minnau tra buom yn nghyd. Ryw noson anhapus--mi cofiaf hi byth-- Daeth ysbryd anghydfod dros drothwy ein nyth, A Mari a minnau a gawsom air croes,-- Y cyntaf a gawsom erioed yn ein hoes. "Eis allan yn sydyn, a chauais y ddor, A chrwydro y bum ar hyd erchwyn y mor, Yn gwylio y tonnau yn chwareu'n y fan Ym mynwes eu gilydd hyd ymyl y lan; Dan chwerthin a neidio o amgylch fy nhroed, Yn orlawn o fywyd fel plant deuddeg oed. Meddyliais mor ffol y bum i gyda'r fun A garwn yn fwy na fy enaid fy hun; Ac eistedd a wnaethum mewn myfyr tra syn, A chenais gan fechan yn debyg i hyn,-- "'Mari anwyl, wnei di faddeu Fy ymadrodd creulon, ffol, Gaf fi yfed gwin dy wenau Pan y deuaf yna'n ol? Pam y rhaid i gariad cywir Fod yn llanw ac yn drai? Arnaf fi, fy Mari anwyl, Arnaf fi yr oedd y bai. "'Mynnaf brynnu gown o sidan Goreu fedd yr hollfyd crwn, I'w roi i Mari a'm llaw fy hunan, I wneud fyny'r cweryl hwn; Gwn y medr Mari faddeu Holl ffaeleddau cariad gwir, A thrawsffurfio gyda'i gwenau Gwmwl du yn awyr glir.' "Pan oeddwn yn dychwel a'r gown i fy mun, Gan deimlo yn ddig wrth fy ffoledd fy hun, A theimlo y mynnwn i wneuthur fy rhan I garu y cweryl o'r ty yn y fan; Ar hynny! mi deimlwn ryw law nerthol, fawr, O'm hol yn fy nhynnu yn llegach i'r llawr, A phedwar o forwyr a'm rhwyment mewn brad, Ac ymaith y'm cipiwyd i lawr at y bad! Un cilgwth!--un floedd a drywanai fy mron, A dyna ni'n nofio ar wyneb y donn. "Llong ryfel angorai draw, draw ar y donn, A rhwyfai y morwyr yn union at hon, A mi, fel mewn breuddwyd, a gefais fy hun (Yn lle bod yn gofyn maddeuant fy mun) Yn nghanol y milwyr, a'r morwyr llawn brad Yn hwylio i ryfel yn syth o fy ngwlad." V. Ryw fore, rhoi'r postman ddau guriad i ddor Y bwthyn bach hwnnw yn ymyl y mor, A Mari a glybu, ond teimlai ryw fraw Yn mynd at ei chalon, a chrynnai ei llaw, A methai gan ofnau a myned ymlaen, 'Roedd blwyddau er pan gadd hi lythyr o'r blaen. Hi gafodd y llythyr ar drothwy y ddor, A gwelai ei fod wedi dod dros y mor; Llawysgrif pwy ydoedd? O ba wlad y daeth? Ai William sy'n glaf, neu a oes newydd gwaeth? Agorodd y sel, a darllennodd--ond och! 'Roedd gwaed y cynhyrfiad yn rhewi ar ei boch; Y capten a'i gyrrodd i ddweyd fel y bu-- Fod storm wedi codi, fod corwynt a'i ru Bron wedi achosi llongddrylliad tra erch, Ac hefyd fod William, canolbwynt ei serch, Yng nghanol y ddrycin, a'r storm, wedi cwrdd A damwain, a syrthio i'r mor dros y bwrdd. Fe dorrodd y newydd ar deimlad y fam Fel taranfollt erchyll, a'i chalon rodd lam; Mor hynod ddisymwth bu'r ergyd i hon, Nes clodd y fath newydd ei dagrau'n ei bron; Ni wyddai p'le i droi, na pha beth i'w wneud, Ond teimlai lais distaw'n ei mynwes yn dweyd,-- "Feallai fod gobaith, feallai i'th Dduw Ofalu am William, a'i fod ef yn fyw." Hi syrthiodd ar ei gliniau A chodai fyny ei llef, Trwy'r storm o orthrymderau, At un sydd yn y nef; Ond ofnai fod ei gweddi Yn gofyn gan yr Ior Am achub un oedd wedi Ei gladdu yn y mor. Daeth eilwaith adlais distaw O fewn i'w mynwes wyw, I ddweyd er hyn y gallai Fod William eto'n fyw; A'r adlais hwnnw roddodd Ail nerth i'w gweddi gref, Nes gyrrodd mewn ochenaid Ei chalon tua'r nef. VI. Ust! ust! dyna gnoc! pwy sy'n curo mor hy? O diolch--a William yn dyfod i'r ty! Pwy draetha'u teimladau pan syrthiodd y ddau Ar yddfau eu gilydd i gyd lawenhau? Dechreuai William ddweyd yn awr Ei hanes prudd, pan syrthiodd lawr, Ac fel 'r achubwyd ef mor hyf Gan law ddieithr morwr cryf; "O na chawn ei weled," atebai y fam, "Y morwr achubodd fy mhlentyn rhag cam, Cai ddiolch fy nghalon am achub o'r lli. Yr hwn sy'n anwylach na mywyd i mi." "Myfi yw y gwr," ebe llais yn y ddor, "Achubodd y bachgen rhag marw'n y mor,"-- "Fy Nuw!"--ebe Mari, pan welodd y dyn, A syrthiodd i freichiau ei phriod ei hun. Dechreuwyd a holi ac adrodd mor hy, A'r tri yn cydwylo wrth ddweyd sut y fu, Y tad yn rhoi darlun o droion y daith, A'r fam yn rhoi darlun o'i phryder tra maith. 'Mhen awr, fe ddaeth cenad i'r bwthyn dinam At Mari yn dweyd fel bu farw ei mam; Y clefyd ddadglodd gloion rhydlyd ei serch, A phwnc ei myfyrdod oedd Mari ei merch, "Rwy'n maddeu i Mari fy merch," ebe hi, A deigr edifeirwch yn treiglo yn lli; A neidiodd o'i gwely, ac allan yr aeth, A chodi ei dwylaw i'r nefoedd a wnaeth, Ar drothwy y drws lle cilgwthiodd ei merch, Am roi ei deheulaw lle rhoddodd ei serch; Gweddiodd yn daer am faddeuant yr Ior, Ac yno bu farw ar drothwy y ddor. Bu'r morwr a Mari am flwyddau hir, hir, Yn byw mewn dedwyddwch dan awyr serch clir, A William a dyfodd yn addurn i'w wlad, Yn eilun ei fam, ac yn bopeth ei dad. * * * * * Y sexton ar hynny eisteddodd i lawr, A'r tan oedd yn llosgi yn isel yn awr; Aeth pawb tuag adref 'rol cael y fath wledd, Aeth yntau i'r fynwent i dorri y bedd. [Y Gof. "Gewynnau ei fraich sydd mor galed a'r dur, Ei galon, er hynny, sydd dyner a phur.": myn64.jpg] SYR WATCYN WILLIAMS WYNN. Ym mhlith yr holl foneddwyr A geir yng Nghymru lan, Mae rhai boneddwyr mawrion, A'r lleill yn od o fan; Ond gwnewch un bwndel anferth O fonedd Cymru 'nghyd, Syr Watcyn, brenin Cymru, Sy'n fwy na'r lot i gyd. Lle bynnag tyfa glaswellt, Lle bynnag t'wynna haul, Fel tirfeddiannwr hynaws Ni welwyd un o'i ail; Mae'n frenin gwlad y bryniau, A chyda hyn o ran, Mae'n frenin yng nghalonnau Ei ddeiliaid ym mhob man. Ewch at y weddw unig, Ewch at amddifad tlawd, Syr Watcyn yw eu noddwr, Syr Watcyn yw eu brawd; Trwy ddagrau diolchgarwch Ar ruddiau llawer un Argraffwyd yr ymadrodd,-- "Syr Watcyn ydyw'r dyn." Mae ef yn wir foneddwr, 'Does neb all ameu hyn, Mae'i glod fel llanw'n llifo Dros lawer bro a bryn; Ac nid yn unig hynny,-- Mae'n Gymro pur o waed, A Chymro glan bob modfedd O'i goryn hyd ei draed. Hir oes i'r mwyn bendefig, Medd calon myrdd pryd hyn, A byw ddwy oes a hanner A wnelo Lady Wynn; Hir oes i'r holl hiliogaeth, A chyfoeth heb ddim trai, A bendith nef fo'n aros Ar deulu hen Wynnstay. LILI CWM DU. Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed; A mynd gyda'r awel i bob cornel gu Mae adgof i feddwl am Lili Cwm Du. Mae lili y dwfr yn ymddyrchu o'r llyn, Gan gym'ryd goleuni i sychu'i phen gwyn; Mae hithau fel pe bai yn edrych bob tu I feddwl a meddwl am Lili Cwm Du. Mae gwlithos yr hwyrddydd yn dyfod bob nos A'u diod gwsg dyner i anian fawr dlos; Yn ol yn siomedig ant gyda'r wawr gu Am na chawsant gusan gan Lili Cwm Du. Oferedd i'r gwlithos i ddyfod i lawr I chwilio am hon ymysg blodau y llawr; I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu Un lili brydferthach na Lili Cwm Du. FFARWEL Y FLWYDDYN. Ar noson ddrychinog, a gwyntog, ac oer, Ysgubai'r ystormydd dros wyneb y lloer; 'Roedd delw y gaeaf ar ddaear a nen, A thymor y flwyddyn yn dyfod i ben. "Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "fe ddarfu fy ngwen, Fy meibion, y misoedd, a'm gwnaethant yn hen; Ces amdo yn barod, o lwydrew yn haen, A dor tragwyddoldeb sy'n agor o'm blaen. "Ffarwel," ebe'r flwyddyn, "'rwy'n estyn fy llaw, A honno yn wleb gan y ddrycin a'r gwlaw; 'Rwy'n mynd i fyd arall i gloddio fy medd, A'm chwaer sydd yn dyfod wrth droedfainc fy sedd. "Pan anwyd fi gyntaf, 'roedd gwywder ar daen, A mynwent prydferthwch o'm hol ac o'm blaen; Daeth gwanwyn 'rol hynny, a'r blodyn morgun A gododd ei sedd ar ei feddrod ei hun. "Fe chwarddai y ddaear, a gwridai yr haul, A minnau'n ysmalio mewn glesni a dail; A chanai y gog ei Sol-ffa y fan draw, A'r fronfraith a ganai'r hen nodiant gerllaw. "Daeth Mai gyda hynny a hirddydd a haf, Ar fynwent y gaeaf daeth gerddi mor braf; Priodais a harddwch gan gredu yn siwr Fod llawnder Mehefin yn gyfoeth i'm gwr. "Pryd hynny, agorai'r amaethwr ei geg, A dywedai,--''Nawr, flwyddyn, mae eisieu hin deg;' Ond er iddo waeddi, y gwlaw oedd yn dod, A'r m'linydd yn diolch am ddwr ar ei rod. "Mi gefais fy meio am wlawio cyhyd, A gwneuthur cryn niwed i'r gwair ac i'r yd; Ond cofiwch chwi, ddynion, beth bynnag fu'r drefn, 'Roedd Duw a Rhagluniaeth o hyd wrth fy nghefn. "O ddiwrnod i ddiwrnod, aeth haf ar ei hynt,-- Gostyngodd yr heulwen, a chododd y gwynt; Daeth llwydrew fel lleidr, pan giliai yr haul, Rhodd wenwyn ym mywyd y blodau a'r dail. "Dechreuais cyn nemawr a wylo yn hallt,-- Dechreuodd y stormydd a thynnu fy ngwallt; Aeth haf a'i brydferthwch i mi yn ddi goel, 'Rwy' heno yn marw yn dlawd ac yn foel. "Mi glywais y clychau yn canu mor llon, Wrth weled babanod yn dod at y fron; Bum i gyda'r mamau yn siriol eu pryd Yn gwenu a siglo uwch ben llawer crud. "Mi glywais y clychau,--daeth mab a daeth merch At allor yr eglwys i roi cwlwm serch; Ar ol i mi farw, d'wed gwragedd di ri',-- 'Wel hon oedd y flwyddyn ro'dd fodrwy i mi.' "Mi glywais y clychau yn brudd lawer gwaith,-- Mi welais yr elor yn myned i'w thaith; Ar filoedd ar filoedd ce's weld yn ddiau Y beddrod yn agor,--yn derbyn,--a chau! "Ffarwel iti, ddaear,--ffarwel iti, ddyn, Ffarwel yr hen bobol,--ffarwel, fab a mun; Mae'n rhaid i ni 'madael, 'rwy'n marw, fy ffrynd,-- 'Rwyt tithau yn dod os y fi sydd yn mynd. "Ffarwel iti, Gristion, mae'm llyfrau ar gael, Mae'm cyfrif fan honno i'r gwych ac i'r gwael; 'Rwy' wedi 'sgrifennu yn rhad ac yn rhydd, MADDEUANT ar gyfer dy enw bob dydd. "Ffarwel, ddyn annuwiol, mae gennyf ar lawr Hen fill yn dy erbyn sy'n hynod o fawr; 'Rwy' heno'n rhy wanllyd i ddweyd yr amount, Cawn oleu byd arall i setlo'r accmmt!" CORN Y GAD. (Y miwsig gan D. Emlyn Evans). Mae corn y gad yn galw'n hyf, A'n nghalon innau'n ateb hwnnw, Mae'n galw ar y dewr a'r cryf I fuddugoliaeth neu i farw,-- Ffarwel, f'anwylyd! Ail-adseinia'r nen I gorn y gad--ffarwel fy Ngwen. "Ti wyddost nad yw'n iawn i ferch I dynnu cledd ar faesydd gwaedlyd, Er hyn gall anfon gweddi serch At Dduw i'r nef dros ei hanwylyd; Cei di fy mendith, Arthur, ar dy ben, A'r nefoedd deimlo gweddi Gwen." 'Does neb ond y dewr yn haeddu cael bod Yn deilwng i'w caru, yn deilwng o glod; Na neb ond gwladgarol a ffyddlon hoff fun Yn haeddu cael calon y milwr a'r dyn. GWYL DEWI SANT. Da gan Gymry gydgyfarfod, Wyl Dewi Sant, A iaith y Cymry ar bob tafod, Wyl Dewi Sant; Son am Gymru gynt a'i hanes Gyda gwen a chalon gynnes, A chalon Cymro ym mhob mynwes, Wyl Dewi Sant. Gwened haul ar ben y Wyddfa, Wyl Dewi Sant, Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia, Wyl Dewi Sant; Gwyl hudolaidd, gwyl y delyn, Gwyl y canu, gwyl y cenin, Nyddu can a phlethu englyn, Wyl Dewi Sant. Cadwn hen ddefodan Cymru, Wyl Dewi Sant, Cinio cynnes cyn y canu, Wyl Dewi Sant; Llawer Cymro calon gynnes Wisga genin ar ei fynwes, A'r lleill ro'nt genin yn eu potes, Wyl Dewi Sant. Mae pob Sais yn hanner gwallgo, Wyl Dewi Sant, Eisieu o galon bod yn Gymro, Wyl Dewi Sant; Dwed y Sais dan wisgo'i faueg,-- "Fi yn leicio'r Welsh bob adeg, Ag fi ddim dweyd un gair o Sasneg," Wyl Dewi Sant. Y ganwyll frwyn fo'n goleu'n siriol, Wyl Dewi Sant, A'r tanllwyth mawn fo'n twymo'r gongol, Wyl Dewi Sant; Ac wrth oleu mawn y mynydd, Pur wladgarwch elo ar gynnydd, A'n serch fo'n ennyn at ein gilydd, Wyl Dewi Sant. 'RWY'N DISGWYL Y POST. 'Rwy'n disgwyl y post gyda llythyr i mi, 'Rwy'n disgwyl ei guriad bob awr wrth y ddor, Ond nid oes un adsain na churiad yn dod, Ond curiad fy nghalon a snad y mor; Mac'r awel yn dyner, ac weithiau yn gref, 'Rwy'n disgwyl, yn disgwyl am air gyda hi, Ond ofer yw disgwyl wrth awel y nef, Ac ofer yw disgwyl wrth donnau y lli; Gwneud storm yn fy mynwes mae storm yn y nen, A thynnu fy nagrau mae dafnau y gwlaw, O eisieu bod rhywun yn cofio ei Wen, Ac eisieu cael gweled ysgrifen ei law. Daw'r mellt mewn trugaredd Drwy swynol gyfaredd, A newydd i rai dros y gwyrddlas li, Ond llawn o gynddaredd Yw'r mellt a'r taranau uwchben ein ty ni; Mi rois iddo 'nghalon, a rhois iddo'm llaw, 'Rwy'n disgwyl, 'rwy'n disgwyl, a disgwyl nes daw. CLYWCH Y FLOEDD I'R FEWYDR. ("Cambrian War Song," gan Mr. Brinley Richards). Clywch y floedd i'r frwydr, Bloedd dros ryddid Cymru, Ar y mynydd uchel draw Llysg tafodau tan; Clywch gleddyfau'n tincian, A banerau'n clecian, Cymry sydd yn dyfod allan, Dros hen wlad y gan; Er fod rhengau'r gelyn Yn ymgau i'n herbyn, Mynnwn weled Cymru'n rhydd, Neu farw yn y gad; Fyny a'r banerau, Chwifiwn ein cleddyfau, Codwn floedd nes rhwygo'r nen, Cymru ddaw yn rhydd. Swn y gwynt pruddglwyfus Sua yn y coed, Hithau'r gornant nwyfus, Chwery wrth fy nhroed; Huno y mae popeth Dan y cwrlid rhew, Tra ffarwelia geneth Gyda'i milwr glew. Clywch y floedd yn codi,-- Bloedd dros ryddid Cymru, Mynnwn weled Cymru'n rhydd Neu farw dros ein gwlad; Rhyddid ddaw i'n gwenau Gyda gwawr y borau Gwaedda ysbryd Cymru gynt,-- "Awn ymlaen i'r gad." Fyny a'r banerau, Chwifiwn ein cleddyfau, Codwn floedd nes rhwygo'r nen, Cymru ddaw yn rhydd; Clywch y floedd yn codi, Mynnwn weld hen Gymru'n rhydd. DYMA BEDWAR GWEITHIWR. Dyma bedwar gweithiwr dedwydd Gyda chydymdeimlad llwyr, Gydgychwynant gyda'r wawrddydd, Gyd-ddychwelant gyda'r hwyr; Maent yn meddu gwragedd hawddgar, Gyda phedwar bwthyn iach, Ae mae gan bob un o'r pedwar Bob i bedwar plentyn bach. Dringa'r pedwar aeliau'r creigydd, Tyllant gernau'r clogwyn cas, Ac a'r pedwar dan y mynydd Ar ol gwythi'r lechen las; Pedwar diben sydd i'r pedwar, Tra mae'r pedwar yn cydfyw, Caru'u gwaith, eu gwragedd hawddgar, Caru'u gwlad, a charu Duw. (Caneuon y Chwarelwyr, ar ymor yn agos i'r Werddon, Mawrth 10fed, '77). HEN AWRLAIS TAL Y TEULU. Glywch chwi gloch yr awrlais Sydd yn taro awr 'rol awr? Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech," Medd hen awrlais tal y teulu; Ar y pared yma bu Yn amser ein hen deidiau, Fel rhyw fynach yn ei ddn Yn rhifo en munudau; Dyma ddwed o bryd i bryd,-- "Byrr yw'ch amser yn y byd, 'Rwy'n dweyd 'r un peth o hyd o hyd," Medd hen awrlais tal y teulu. Darnio amser yw ei waith, A thra'n darnio oesau maith, Mal "un, dau, tri, pedwar, pump, chwech," Medd hen awrlais tal y teulu; Canodd gloch uwch ben y orud Pan anwyd llawer babi; Canu bu o bryd i bryd Ar lawer dydd priodi; "Clywch y gloch fu uwch y crud Yn canu cnul o bryd i bryd, I lawer oes fn yn y byd," Medd hen awrlais tal y tenlu. "'Rwy'n dweyd 'run peth o hyd o hyd," Medd hen awrlais tal y tenlu. HEN GYMRY OEDD FY NHADAU. Hen Gymry oedd fy nhadau gynt, A Chymro glan wyf fi, A charu'r wyf yr awel wynt A hed dros Gymru gu; 'Rwy'n caru'r wlad a'm magodd, Ei rhyddid pur a'i chlod, Ac yn y wlad bu farw nhad 'Rwyf finnau fyth am fod; Mi glywais am ryw wledydd Sydd yn uwch mewn parch a bri, Ond Cymru,--anwyl Gymru, Sydd yn ddigon hardd gen i. A'r sawl sy'n dewis gadael hon, 'Rwy'n dwedyd i ti, ffrynd, Os cei di'n rhywle wlad sydd well, Mae croesaw i ti fynd. Feallai nad yw'n Gwyddfa ni Mor uchel yn y nen, A gallai nad oes cymaint trwch O eira ar ei phen; Feallai fod mynyddau mwy I'w cael mewn gwledydd pell, A gallai fod eu dolydd hwy Yn frasach ac yn well; Ond gennym ni mae'r cymoedd, Gyda'u nentydd gloewon, glan, Lle cenir tonau heddwch pur Ar fil o dannau man; Mae yno ryddid ar bob bryn Yn chwareu yn y gwynt, A hen adgofion ym mhob glyn Am ddewrder Cymry gynt. Mae llynges Prydain ar y mor Yn ben llynghesau'r byd, Gall Prydain gau ac agor dor Yr eigion ar ei hyd; Mae llawer Cymro ar ei bwrdd A chalon fel y llew, Yn barod ar bob pryd i gwrdd A'r gelyn mwyaf glew; Ni gadwn undeb calon, Gyda modrwy aur y gwir, Tra fyddo modrwy loew'r mor Yn amgylchynu'n tir; Os rhaid, ni godwn gleddyf dur, Ac unwn yn y gad Dros ryddid hoff a chrefydd bur, A gorsedd aur ein gwlad. Mawrth, 1877. DYFODIAD YR HAF. Mi glywais fronfraith yn y llwyn Yn canu bore heddyw, A dwedai yn ei hanthem fwyn,-- "Mae'r gaeaf wedi marw." Tra cana'r fronfraith beraidd glod, Mae'r haul yn gwenu'n llon uwchben, A'r briaill man wrth fon y pren Yn edrych fyny tua'r nen, I weld yr haf yn dod. DALEN CYFAILL. Nis gallaf alw'r ddalen hon Yn ddalen i athrylith, Ni hoffwn fritho'i gwyneb llon A gweigion eiriau rhagrith; Addurno'u dail ag ysgrif hardd Adawaf i rai ereill, Os caf fi alw dalen bardd Yn ddalen cywir gyfaill. Paid byth a meddwl, gyfaill mwyn, Am gyfeillgarwch trylen, Y gall yr awen byth ei ddwyn I bennill ar un ddalen; Na, na, mae cyfeillgarwch byw Yn uwch, yn is ei syniad, Mae'n hirach, lletach, dyfnach yw Na holl ddalennau'r cread. Ond un peth yn y ddalen hon Sy'n hynod debyg iddo, Mae'n berffaith wyn a phur ei bron Cyn i fy llaw ei britho; Peth arall yn y ddalen wen A ddeii gymhariaeth eto, Mae cyfeillgarwch pur fel llen Yn hawdd i weled trwyddo. Gall llaw ddiystyr ddod ryw dro I rwygo hyn o ddalen, Pan fyddwn ni ein dau'n y gro Heb fywyd, gwres, nac awen; Gall dwylaw malais ddod ryw bryd I aflonyddu'n heddwch, Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd I rwygo'n cyfeillgarwch. DEWCH I GNEUA. GEIRIAU RHANGAN (Part Song). (Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd). O dewch i gneua tua'r coed, Fa, la, la, Yn llawen galon, ysgafn droed, Fa, la, la; Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail, A chwareu ym mhelydrau'r haul, A thorri cneuen bob yn ail, Fa, la, la. Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach, Fa, la, la, Yn trwsio pluf ei aden iach, Fa, la, la; A'i weld yn esgyn fry i'r nen, Neu'n canu ar y gainc uwchben, A ninnau'n canu wrth fon y pren, Fa, la, la. Ar ol yspeilio'r llwyni cyll, Fa, la, la, Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll, Fa, la, la; Cawn gydymdwymno a mwynhau Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau, A chanu can, a thorri cnau, Fa, la, la. LOLIAN A LILI. O'r anwyl, y mae fy rhieui Am imi roi 'mwriad ar Mari, Tra gwyddant eu dau Nad allaf fwynhau Fy hunan heb lolian a Lili. Be waeth am athroniaeth rhieni? Anghariad yw ceisio 'nghynghori, Mae rheswm mor bwl Yn siarad fel ffwl Er pan eis i lolian a Lili. Gofynwyd im' gynnyg ar Gweni, Sy' a dwyfil o wyn ar lan Dyfi; Pob parch i Gwen fwyn A'i defaid a'i hwyn, Ond gwell gen i lolian a Lili. Fe drinir fy mod yn pendroni, A mod i 'n rhoi 'nhraed yn y rhwydi; Mae 'nhraed ddigon rhydd,-- Fy nghalon i sydd Mewn rhwyd ar ol lolian a Lili. Gwyn fyd na fa'i'r rhaeadr yn rhewi I atal ei gan i'r clogwyni, Er mwyn im' gael awr O eistedd i lawr Yn dawel i lolian a Lili. Pe bai gennyf ddawn i farddoni, Anadlwn fy serch wrth fwyn odli; Cae'r awen fad rydd Bob nos a phob dydd, Ddigonedd o lolian a Lili. [Awel Y Bore. "Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed.": myn80.jpg] Y FFARMWR. Y ffarmwr yw bywyd y gwledydd, Rhwng dau gorn yr aradr mae'n byw, Efe yw tywysog y meusydd, Ni phlyga i neb ond ei Dduw; Os ydyw yn chwysu'r cynhaeaf, Ynghanol ei lafur fe gan, Ca wledda yn oerni y gaeaf, A chanu yn ymyl y tan. Pan rua y gwyntoedd a'r stormydd, A phan y daw gwanwyn dilyth, Pan chwery yr wyn ar y dolydd, A robin yn gwneuthur ei nyth, A'r ffarmwr i'r maes gyda'r hadau, A haua ei had yn ei bryd, Er llenwi ei holl ysguboriau A bara i borthi y byd. Pan gasgla ei wenith i'w ydlan, A'i wartheg i'r beudy gerllaw, Fe eistedd yn ymyl y pentan, A chwardda 'r y gwyntoedd a'r gwlaw; Ni wyr am uchelgais na balchder, Ond gwna ei ddyledswydd fel dyn, A cheidw ei feddwl bob amser Ynghanol ei fusnes ei hun. O DEWCH TUA'R MOELYDD. O dewch tua'r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai, Mae glesni yr entrych Yn gwenu mor geinwych, Wrth syllu lawr ar geinion mwynion Mai; Dewch i gyd, Dewch tua bro'r grug a'r brwyn, Mae'r dolydd yn deilio, A'r byd yn blodeuo, A'r adar yn llonni yn y llwyn. Ar bennau'r mynyddoedd Mae awel y nefoedd, Yn siarad wrth y nef yng nghlustiau y llawr, Mae dylif o iechyd A ffrwd bur o fywyd, Yng nghol awelon iach y mynydd mawr, Dewch i gyd, &c. Dewch, gwelwch y clogwyn Fel pe bae'n ymestyn Gan godi'i law i'n gwahodd ar ei gefn, Cawn redeg a chwareu Fel iyrchod y creigiau, A chanu can drachefn ar ol trachefn; Dewch i gyd, &c. Mehefin 22, '69, Y GOF. (Y gerddoriaeth gan Proffeswr Parry). Ynghanol haearn, mwg, a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan gann can O fawl i'w wlad a'i iaith. Gewynau ei fraich sydd mor galed a'r dur, Ei galon, er hynny, sydd dyner a phnr; Mae cyrn ar ei ddwylaw mor gelyd a'r graiw, A dwedir fod corn ar dafod ei wraig. Dechreua holi Sion Jones Ty'n y Nant,-- "Oes eisieu pedoli? Pa sut mae y plant?" Sion Jones yw'r mwyaf gwrol Am daro i wneuthur pedol,-- "On'd yw hi'n dywydd od o bethma, Weithiau'n wlaw, ac weithiau'n eira,-- Chwytha'r tan yn gryfach, Mocyn, Paid a chysgu wrth y fegin,-- Dacw gawod ar y bryniau, 'Does dim coel ar almanaciau,-- Sefwch o ffordd y gwreichion, blant, Cliriwch le i wr Ty'n Nant." Dacw Rolant Tyddyn Einion, Eisieu rhwymo par o olwynion, A dyma Dafydd o Blas Iolyn Eisieu peg yn nhrwyn y mochyn; Gwyn fyd na f'ai peg yn ei drwyn ef ei hun, I'w rwystro i'w stwffio i fusnes pob dyn. "Dyma aradr yn dod, a dacw og, Chwytha'r tan, Mocyn, on'd wyt ti'n hen rog,-- Huw Huws, Blaen y Ddol, a fu yma ers tro, Eisieu gwneud blaen ar y big-fforch o'i go', 'Does neb yn y byd all wneud blaen arno fo. "Holo! dacw Sian Ty'n y Canol, Hi gollodd bedolau ei chlocs ar yr heol, Gwyn fyd na fa'i thafod yn colli'i phedolau, Er mwyn iddi gloffi yn lle cario chwedlau; Chwytha'r tan, Mocyn, ymhell y bo'th galon,-- Sefwch 'nol, Mr. Jones, rhag ofn y gwreichion, Chwi welwch, Sion Jones, fod digon o waith Yn dyfod i'r Efel i chwe gof neu saith." Fel hyn, ynghanol mwg a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu can O fawl i'w wlad a'i iaith. Mawrth 30, '76. CLYWCH Y FLOEDD I'R GAD. (Geiriau Cymraeg ar ymdeithdon newydd Mr. B. Richards, "Let ihe hills resound.") Clywch y floedd i'r gad--i'r gad! Yn adseinio bryniau'r wlad; Ymdonna'r ddraig Ar ben bob craig, Fry yn y nen; Tra saif yr ieuanc wawr I orenro'r Wyddfa fawr, Fe saif y Cymro dewr Dros ei Walia wen. Dewrder pur A lanwo'r galon ddur; O dewch yn llu Dros Gymru fu A Chymru fydd; Rhyw hawddfyd llon Gorona'r ymdrech hon; A chanu wnawn, A'n bronnau'n llawn 'Nol cael y dydd. Clywch y floedd, &c., &c. Anwyl wlad, fy anwyl wlad, Nefoedd o fwynhad Ydyw byw a marw Yn bur i ti; Rhydd dy nentydd bach, A dy awyr iach, Nerth yn fy mraich A fy nghalon i: Trig cerdd a chan Rhwng dy fryniau glan, A chaniadau mwyn dy delynau mad; Ac mae'r awen wir Yn llenwi'th dir-- Gwynfa y byd yw fy anwyl wlad. Clywch y floedd, &c., &c. Y DDWY BRIODFERCH. (Efelychiad). Mi welais yn yr eglwys Ddwy eneth heirdd eu gwedd; 'Roedd un mewn gwisg priodas, A'r llall yng ngwisg y bedd. Darllenwyd y gwasanaeth,-- "I'r byw, i fyw," aeth un; A'r llall yng nglynn marwolaeth Briododd Angeu'i hun. Fe aeth y ddwy i'w cartref Yn ieuanc iawn en gwedd; Aeth un i'r palas gorwych, A'r llall i'r tywyll fedd. Deffroai un y bore Mewn byd llawn poen a chlwy; Y llall oedd fil mwy dedwydd, Cael peidio deffro mwy. BETH SYDD ANWYL? Pan yn nyddiau ie'netid cu, Beth sy'n anwyl? Cael pleserau, a chariadau, Hyn sy'n anwyl: Crwydro drwy y coed a'r dail, Son am gariad bob yn ail; Gwneuthur coron flodan hardd I f' anwylyd yn yr ardd, Pan yn nyddiau ie'enctid cu, Hyn sydd anwyl. Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, Beth sy'n anwyl? Tyrru elw--gwneuthur enw-- Hyn sy'n anwyl; Cario'n faich ofidiau gant, Casglu eyfoeth, magu plant, Codi cestyll yn y gwynt, Cestyll breuddwyd dyddiau gynt, Pan y tyfa'r llanc yn ddyn, Hyn sydd anwyl. Ar brydnawnddydd byrr yr oes, Beth sydd anwyl? Hyder gwastad, ffydd a chariad, Hyn sy'n anwyl; Troi y cefn ar ofal byd, Gweddi daer, a chartref clyd; Cael cydwybod heb un briw, Heddwch bron, a ffydd yn Nuw, Ar brydnawnddydd byrr yr oes, Hyn sy'n anwyl. Y GLOWR A'R CHWARELWR. (Geiriau deuawd i leisiau gwrywaidd). Y DDAU. Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn, A gwywo'r meillion mad, A'r disglair od fel arian gwyn Ar hyd bob glyn a gwlad; Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry' A'r storm yn tramwy'r fro, Mae'n dda cael glo i dwymno'r ty, A llechi ar y to. Y GLOWR. Myfi yw'r glowr du ei liw, Sy'n mynd i lawr, i lawr, I agor cistiau gwerthfawr Duw, Sy'n nghroth y ddaear fawr; O! cofiwch weithiau am fy mhoen Tra'n twymno gylch y tan; Os aflan yw fy ngwisg a nghroen, Mae gennyf galon lan. Y DDAU. Cydweithiwn megis Cymry glan I godi Gwalia wen, I'r byd i gyd ni roddwn dan A chysgod uwch ei ben. Y CHWARELWR. Chwarelwr siriol ydwyf fi Yn byw ar ddant y graig, I dynnu dail o'i chalon hi I gadw ty a gwraig; Os rhuo clod mae'r fflamau tan I'r glowr am y glo, Dadganu clod chwarelwr glan Mae'r cenllysg ar y to. Y DDAU. Cydweithiwn megis Cymry glan I godi Gwalia wen; I'r byd i gyd ni roddwn dan A chysgod uwch ei ben. BAD-GAN. Rhwyfwn, rhwyfwn yn ein badau, Canwn gyda bron ddiglwyf, Tynnwn, tynnwn drwy y tonnau,-- Cadwn amser gyda'r rhwyf; Dacw faner gwawr y borau Yn ymdorri ar y bryn, Ac yn taflu rhes o'r bryniau Ar eu pennau i lawr i'r llyn. Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. Dyfnach, dyfnach, a y tonnau, A'r cysgodion yn fwy clir, Gloewach, gloewach a'r wybrenau Fel yr awn oddiwrth y tir; Ar y lan mae'r lili swynol Yn ymbincio yn ei gwyn, Ac mae'r cymyl gloewon siriol Fel rhyw elyrch gwynion nefol Yn ymdrochi yn y llyn. Rhwyfwn, rhwyfwn, &c., &c. Y FRENHINES A'R GLOWR. (Er cof am waredigaeth y Ty Newydd. Cyfansoddwyd i Mr. D. Emlyn Evans). Y FRENHINES. Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau, Saethwch dros y bryn a'r ddol, Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau, Dewch a'r newydd i ni'n ol, A oes gobaith i'r gwroniaid Gipio yspail angau du, A rhoi goleu i'r trueiniaid O glaer lusern gobaith cu. Y GLOWR. Ofnadwy fu'r pryder,--y dychryn oedd fawr, Ar drothwy bytholfyd yn disgwyl yr awr, Ond pan ddaeth curiadau'n cydweithwyr i'n clyw, Deallem fod tan cydymdeimlad yn fyw; A bron ein brenhines o'i gorsedd wen, fawr, Yn toddi o serch dros y glowyr yn awr. Y FRENHINES. Gwisga'r eurdlos ar dy ddwyfron, Gyda llawryf werdd y gwron Cana'r ddaear oll dy fawl. Y GLOWR. Cymer dithau, Buddug dirion, Ddiolchgarwch glowr ffyddlon, I wladgarwch pura'i galon Y mae gennyt gyflawn hawl. Daeth teimlad dyngarol fel tan nef ei hun I rwymo brenhines a glowr yn un, Mae gorsedd a thlodi'n diflannu draw, draw, I rinwedd a chariad gael cydysgwyd llaw. DYCHYMYG HEDA. Dychymyg heda uwch y bedd Lle claddwyd priod anwyl, Ac yno mynn gael gwneud ei sedd I ddisgwyl, ac i ddisgwyl; A gwaeddi'i henw a fynn ef Gan ddisgwyl iddi ateb, Ond ni adseinia dynol lef Yn awyr tragwyddoldeb. Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r ty, A gwraig heb ail yn unman; Lle mam sy'n wag--"y man lle bu" Adseinia'r gwagle'n mhobman; Ac uwch ei llun y serch a ddaw I sylweddoli'r cyfryw; Ond adlais rheswm dd'wed o draw, "Y llun yn unig ydyw!" Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,-- Pwy wylia dros y rhei'ny? I'r tair sy'n galw am eu mam-- Gair gwag am byth yw "mami!" Ond hyn sy'n gysur, onid yw, Tra'n wylo uwch y marw, Fod Tad amddifaid eto'n fyw-- MAE EF YN LLOND EI ENW! OS DU YW'R CWMWL. (Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street East, Llundain). Os du yw'r cwmwl uwch eich pen, Wrth golli'ch anwyl briod, Os nad oes rhwygiad yn y llen I weld pa beth sydd uchod; Mae Tad y gweddwon eto'n fyw, A'r cwmwl a symuda, Cewch weld fod gwenau wyneb Duw Tu ol i'r cwmwl yna. Y teimlad ddwed,--"Mae niwl y glyn Yn oeraidd i'm hanwylyd, Mor gas i serch yw'r amdo gwyn, Yr arch, a phridd y gweryd:" Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd Draw, draw, i'r nefol hafan, Lle mae eich priod byth mewn bedd Mor bur a Duw ei human. Gofyna teimlad eto'n brudd,-- "Beth wna'r amddifaid heddyw? Pwy sycha'r deigryn ar y rudd Ar ol y fam fu farw?" Ond yn y nef uwch ben y glyn Mae aur lythrennau telaid Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,-- "MAE DUW YN DAD AMDDIFAID." Os ydyw cwpan galar du Yn llawn o chwerw wermod, Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,-- Cewch fel cyn dod i'r gwaelod; Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw Yn llawn o lygaid goleu, A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw Y diwedd cyn y dechreu. Mae'r holl sirioldeb yn y nef, A'r dagrau ar y ddaear,-- Mae yno'n foliant "Iddo Ef," Ac yma'n llawn o alar; Mae hwn yn fyd i gario'r groes, Mae yno'n gario'r goron, Mae'r wylo i lawr ym myd y loes, A'r gan tu hwnt i'r afon. Chwef., 1875. CWSG, FILWR, CWSG. ("Rest, warrior, rest,"--SIR W. SCOTT). (Y gerddoriaeth gan Mr. J. H. Roberts, Mus. Bac., Cantab). Cwsg, filwr, cwsg, aeth heibio'th gur, Cwsg yr hun na wyr am ddeffro, Darfu tynnu'r cleddyf dur Ddydd a nos mewn gwaed a chyffro; Taena dwylaw duwies hedd Esmwyth flodau ar dy galon, Ac o gylch dy dawel fedd, Clywir adsain can angylion; Nid oes gyffro yn dy fron, Darfu rhu a thwrf magnelau, Ond mae ar dy wyneb llon Gysgod adgyfodiad golau. AR GANOL DYDD. (Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol). "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."--MARC xiv. 8. Ar ganol dydd ei bywyd cu, Ar ganol llwybr crefydd, O ganol serch cyfeillion cu, O ganol cartref dedwydd; Ynghanol defnyddioldeb llawn, Ar ganol gwaith ei bywyd, Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn Ynghanol cylch y gwynfyd. Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,-- Y glyn rhwng byd a bywyd, Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn Heb brofi fawr o'u hadfyd; Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw I'r sawl mae'r Iesu'n garu, Ond cysgod aden dyner Duw Yn dod i'w diogelu. Na choder colofn ar ei bedd,-- Na cherfier gair i'w chofio, Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd Yn ddisglair byth fan honno; Ac ar y bedd yn alar byw, Y tlawd ollynga berlau, Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw Ei hunan yn y dagrau. Ion. 20, 1873. RHYWUN. (O'r Saesneg). Mae rhywun yn dod bore fory, Ond pwy--eich gwaethaf i ddweyd, 'Rwy' am fynd i'w gwrdd bore fory, Fy nghalon ddwed rhaid i mi wneud; Nid ydyw yn unrhyw berthynas, Nid oes ganddo gyfoeth na chlod, Ond rhywun sy'n dod bore fory, Gwyn fyd na bae fory yn dod. Ces lythyr ers echdoe gan rywun, Agorais y sel yn y fan, Yn hwnnw fe sonnir gan rywun Am gariad, a modrwy, a llan; Mae'i eiriau'n felusach na'r diliau, A'i lygad fel awyr las, glir, Mae'n dwedyd y car fi hyd angeu, A gwn nad all ddweyd ond y gwir. Mae rhywun yn dod bore fory, Mae'n sicr o ddod yn ddi-feth, Mae rhywun a finnau'n priodi, Ond pwy ydyw rhywun yw'r peth; Ie, pwy ydyw rhywun yw'r cwestiwn, Mae'i ruddiau cyn hardded a'r rhos, Os daw bore fory, mi fyddaf 'Run enw a rhywun cyn nos. YSGYDWAD Y LLAW. (Can. Y gerddoriaeth gan Mr. Jos. Parry Mus. Doc.). Bum yn ysgwyd fy llaw a llawer, A'u gafael yn oer ddi-fraw; Nid ydoedd y galon gynnes I'w theimlo yn dod i'r llaw; Mae ereill ymron ag ofni I'w llaw gael llychwino'i gwawr, Ond caraf gael llaw i'w hysgwyd A galedwyd gan lafur mawr. Bum yn ysgwyd y llaw wen, dyner, Pe buasai y rhos di-ail Rhwng bysedd y llaw wen honno Ni buasai yn siglo'i ddail; Ond teimlais guriadau'r galon Yn rhedeg i ben pob bys, A theimlais onestrwydd yno Fel yn gwefrio y fron ar frys. Fe ddywedir fod iaith y galon I'w darllen ar ruddiau dyn, Ac y saetha o'r llygaid gariad, Sydd yn gryfach na nerth ei hun; Ond gwelais fod twyll mewn gwenau, Edrychant yn deg o draw, Ond ni cha'dd fy mron ei thwyllo Erioed pan yn ysgwyd llaw. GRUFFYDD AP CYNAN. Ar fore teg flynyddau'n ol, Ffarweliodd Gruffydd gyda fi, Wrth ysgwyd llaw dros gamfa'r ddol, Ein dagrau redent fel y lli; Ysgydwai'i gledd yn nhrofa'r ffordd I ddwedyd wrthyf ffarwel mud, Tra'm calon innau megis gordd Yn curo'n gynt, yn gynt o hyd. Cychwynnai ef i'r rhyfel trwm, I ganol erch elynol lu, A chyda chalon fel y plwm, Cychwynnais innau'n ol i'r ty; Ond gyrrodd Gruffydd weddi fyw Gynhwysai f'enw i i'r nef, A chlywodd clust agored Duw Fy ngweddi innau drosto ef. Ar ddydd y frwydr trwy'r prynhawn, Tra'r o'wn yn synfyfyrio'n ffol, Breuddwydiais freuddwyd rhyfedd iawn,-- Fod Gruffydd wedi dod yn ol; Y bore ddaeth, a daeth y post, Gan gludo newydd prudd dros ben, Fod Gruffydd wedi'i glwyfo'n dost, Ag eisieu gweld ei eneth wen. Cychwynais ato yn y fan,-- Ce's edrych ar ei welw rudd,-- Cyn hedeg o'i anfarwol ran I weld ei Dduw mewn gwlad o ddydd; "Ffarwel, fy ngeneth," ebai ef, "Mae telyn yn fy nisgwyl i, A honno, meddai engyl nef, Y nesaf un i'th delyn di." Y BLODYN GWYWEDIG. Tra'n eistedd fy hunan un hwyr dinam, Yn ymyl y ffenestr at fachlud haul, Yn fy llaw yr oedd llyfr ges gan fy mam, Ac yno dechreuais a throi ei ddail; Cyn hir, syrthiai blodyn gwywedig i lawr; Rhwng y dail y bu am flynyddau maith, A gweled y blodyn gwywedig yn awr Dynnai'r dagrau yn lli o'm llygaid llaith; A chofio a wnawn am y dyddiau gynt Pan wyliai fy mam dros ei phlentyn bach, A phan redwn i yn rhydd fel y gwynt, Heb ofal am ddim, a fy nghalon yn iach. Edrychais i weled y ddalen gu Lle dodwyd y blodyn gwywedig, gwan, Gwelais yno eiriau a'm toddai i, Geiriau gweddi f'anwylaf fam ar fy rhan; Meddyliais fod mam wedi dianc draw I ardal lle nad yw y blodau yn wyw, Os syrthiodd ei chorff lawr i'r bedd gerllaw, Anfarwoldeb flodeua yng ngardd fy Nuw; Mi godais y blodyn oedd wrth flaen fy nhroed, Ac ar weddi fy mam y dodais ef, A gollyngais fry un ochenaid fawr Am gael mynd cyn hir at fy mam i'r nef. WYLWN! WYLWN! (Requiem,--Y gerddoriaeth gan Mr. J. Parry, Mus. Bac). Wylwn, wylwn! cwympa'r cedyrn, Cwympa cedyrn Seion wiw, Wylwn, wylwn! dianc adref Y mae cewri Mynydd Duw; Cydalarwn dan y stormydd, Crogwn ein telynau'n syn,-- Crogwn hefyd ein llawenydd Ar hen helyg prudd y glyn: Y cadarn a syrthiodd! Mae bwlch ar y mur, A Seion ar suddo mewn tristwch a chur. Ond ndgorn Duw a rwyga feddau'r llawr, A syrth y ser yn deilchion ar un awr;-- Dydd dial Duw!--dydd gwae i fyrddiwn fydd, A dydd gollyngdod teulu'r Nef yn rhydd. Clywaf lais o'r Ne'n llefaru, Treiddia trwy hen niwl y glyn, "Rhai sy'n meirw yn yr Iesu Gwyn eu byd y meirw hyn;" Diolch am yr enfys nefol Sydd fel bwa am y bedd, Dyma yr addewid ddwyfol Gaed o wlad yr hedd. Moliannwn,--Gorfoleddwn,-- Cawn gwrdd i gyd-ganu,--cyd-foli,--cyd-fyw, Mae allwedd marwolaeth wrth wregys ein Duw. MAM. Eisteddai geneth lwyd ei gwedd I ddweyd ei chwyn a'i cham, Ar noson oer yn myl bedd, A hwnnw'n fedd ei mam; Hi syllai fyny tua'r nen, A'i llygaid prudd yn llyn, Ac yng ngoleuni'r lleuad wen, Hi wylai gan fel hyn,-- "Mam! mam, O fy mam! 'Does neb yn y byd Mor anwyl a mam. "Ai llygad mam yw'r seren dlos Sydd yn y nefoedd fry, Yn wincio arnaf yn y nos I esgyn ati hi? Ai llais fy mam yw'r awel iach Sy'n hedeg dros y tir, Yn dwedyd wrth ei geneth fach,-- "Cei ddod i'r nef cyn hir?" Mam! mam, O fy mam! Pa bryd caf fi fynd I fynwes fy mam?" Y LLYGAID DUON. (Y gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans). Mae gloewder hanner dydd Mewn llygaid gleision iach, Ond llygaid duon sydd Yn loewach dipyn bach; Ac O! mae edrych arnynt hwy Yn clwyfo ac yn gwella'r clwy'. Fel mae y seren dlos Yn wincio fry uwchben, Trwy d'w'llwch hanner nos, Yn fantell dros y nen; Fe wincia seren cariad cu Trwy hanner nos y llygaid du. Mae beirdd pob gwlad ac oes Yn rhyfedd iawn fel hyn, Yn gweld pob peth yn groes,-- Yn gweld y du yn wyn; Pa dduaf bo y llygaid hardd, Goleuaf yw yng ngolwg bardd. Medi 21, '71. CWYNAI CYMRU. Cwynai Cymru pan yn colli Mil o ddewrion gloewon gledd, Cwynai Cymru wedi hynny Roi Llywelyn yn ei fedd; Ond ar feddau'r dewrion hynny Mae angylion hedd yn llu, Er ys oesau yn dadganu Cydgan rhyddid Cymru gu. Cwynai Cymru weld cyfeillion Yn ei gwawdio yn ei chefn, Cwynai hefyd weld ei meibion Yn bradychu'u hiaith drachefn; Ond mae heulwen wodi codi Ar ein hiaith ac ar ein gwlad, Ac mae pawb yn uno i foli Iaith a moesau Cymru fad. Cwynai Cymru weld ei thelyn Heb un llaw i ddeffro'i thant, Gweld yr awen gyda deigryn Ar ei grudd am fyrdd o'i phlant; Ond mae'r deigryn wedi'i sychu, Hen delynau'n fyw o gan, Gyda mil o leisiau'n canu Hen alawon Cymru lan. GALAR! GALAR! GALAR! Galar, galar, galar, Mae cewri y cysegr yn cilio o'r byd, Galar, galar, galar, A chenedl hiraethus yn ddagrau i gyd, Seion a wisga'i galarwisg mewn braw, A thannau ei thelyn yn ddarnau'n ei llaw. Doder serch cerddorion, bellach, Yn goronbleth uwch y bedd, Cafodd ef goronbleth harddach Gan gerddorion gwlad yr hedd, Darfu swn hen delyn daear Megis dan ei swynol law, Hedodd yntau uwch pob galar At aur delyn Gwynfa draw. Huna, huna, blentyn Iesu, Gorffwys wedi llafur maith, Melus rhoi y cledd o'r neilldu A chael llawryf pen y daith; Cymysg oedd y cur a'r moliant Tra yn rhodio 'r dyffryn du, Mawl yw'r oll yng ngwlad gogoniant, Mawl i enw'r Ceidwad cu. MAES GARMON. {104} (Harlech). Codwn faner hedd a gwynfyd Fry i hofran trwy'r nen hyfryd, Chwifiwn ein cleddyfau gwaedlyd Pan yn troi o'r gad; Garmon fawr gyhoedda arwest Wedi troi o faes yr ornest, Bloeddiwn ninnau gan y gonewest Nes y crynna'r wlad; Adsain Haleliwia Darfai fron y dewra, Haleliwia dynnai'r nef I ddilyn cleddyf Gwalia; Bloeddiwn Haleliwia eilwaith, Wedi cael yr oruchafiaeth, Nes adseinio'r dywysogaeth Gyda nerth ein llef; Os yw'r gwaed yn llifo,-- Os yw'r meirw'n rhifo Fel y glaswellt ger ein bron Ar hyd Faes Garmon heno, Pwy all rifo y bendithion Ddaw trwy frwydr fawr Maes Garmon, Pan aeth Haleliwia'n dewrion Fry i glustiau'r nef! Marw mae gwaeddiadau rhyfel Yn y pellder gyda'r awel, Ac mae gwawrddydd heddwch tawel Yn ymgodi draw; Gormes drengodd ar Faes Garmon, Yno gorwedd gyda'r meirwon, A daw rhyddid gyda'i rhoddion Yn ei deheu law; Canwn gerddi heddwch Wedi nos o dristwch, Aed ein Haleliwia glir Ar aden gwir ddedwyddwch Dros y bryniau, trwy'r dyffrynnoedd, Hyd y glannau, trwy y glynnoedd, Ac i fyny hyd y nefoedd Fel taranau'r Ior; Crogwn ein banerau Gyda'n dur bicellau, Sychwn wrid y gwaed heb goll Oddiar ein holl gleddyfau; Rhed y newydd trwy bob talaeth Am ein teilwng oruchafiaeth, Nes adseinia Buddugoliaeth Draw o for i for. Y DYN HANNER PAN. Fe safai'r hanner pan a'i fys yn ei geg, I edrych ar bobl yn myned heibio, A phawb a gyd-ddwedent, 'nol barnu yn deg, Fod diffyg go fawr i'w weld arno; Er hynny ceid ganddo ryw fath o ffraethineb Tu hwnt i'r cyffredin mewn ambell i ateb. Ryw ddiwrnod fe welai ysmociwr lled hy' Yn pasio dan fygu'n aruthrol, A dywedai'r hanner pan,--"Peth od, ddyliwn i, Na buasai ei sifnai ar y canol; Mae arogl tra rhyfedd ar hwn gallwn dybied, Gan y rhaid iddo fygu i atal y gwybed." Rhyw dri crach foneddwr a basient y fan Lle'r oedd yr hanner pan yn sefyll, Gofynnodd un iddo, oedd Gymro go wan,-- "Ers pryd 'rwyt ti yma, yr ellyll?" "Mi glywais gan rywun y pasiai tri mwnci, Mi redais i edrych ai gwir oedd y stori." Dyn meddw a ddaeth o'r naill ochr i'r llall, Gan dyngu a rhegu'n erwinol; Arllwysai ei wawd ar y dyn hanner call, Gan dybio ei hun yn synwyrol; "Mi glywais ddiareb," atebai'r hanner pan, "Fod padell yn danod ei dduwch i'r crochan." Fe basiai merch ieuanc brydweddol a theg, Yn troi mewn rhyw gylchoedd tra phwysig; Ar ol iddi basio rhyw naw llath neu ddeg, Fe waeddai'r hanner pan yn ffyrnig,-- "Oes peryg', my dear, i chwi ddadgymalu?-- Pwy ydyw y cooper a fu yn eich cylchu!" Un arall a basiai 'mhen dwy awr neu dair, A chwpl o blu' ar ei hetan, Ro'wn innau yn gwrando, fel mochyn mewnhaidd, I glywed sylwadau'r hanner pan; A dywedai,--"Mi glywais fod merched yn wylltion, Mae nhw'n magu plu'--ant i 'hedeg yn union." O DEWCH I BEN Y MYNYDD. (Y gerddoriaeth gan Mr. D. Emlyn Evans). O dewch i ben y mynydd draw, I weld yr haul yn machlud, A natur gyda'i thyner law Yn cau amrantau bywyd. Fel arwr dan ei glwyf yr huan cun Orwedda'n bruddaidd yn ei waed ei hun, A'r llen sy'n derfyn rhwng y nos a'r dydd A deflir dros ei wyneb prudd. Ond wele'r ser yn filoedd Ar hyd yr wybren dlos, Mor ddisglair y cabolwyd Botymau gwisg y nos; Os yw yr haul yn dangos Prydferthion daear gref, Mae'r nos, er twylled ydyw, Yn dangos mwy o'r nef. OS YDYM AM FYND TRWY Y BYD. Os ydym am fynd trwy y byd Heb gwrdd a phrofedigaeth, A chael yr haul uwch ben o hyd, Heb gwmwl siomedigaeth; A throi gofidiau o bob rhyw, I gyd yn fel a menyn, Y ffordd i ni yw dysgu byw I gyd 'run fath a'r gwenyn. Awn fel y gwenyn at ein gwaith, Pan d'wyna haul y borau, Bydd melus dod yn ol o'r daith Dan lwyth o'r golud gorau; Dos, ddyn, i'r maes, ac yno gwel Ryw gyfoeth ar bob cangen, Mae Duw yn dangos lle mae'r mel I'r sawl sydd arno'i angen. Os gwlawia'r nen drallodion lawr, Paid bod yn llwfrddyn claear, A phaid a gwneud rhyw fynydd mawr O dwmpath pridd twrch daear; Os gweli rywdro yspryd syn, Wel, paid a mynd i grynu, Sylldremia yn ei wyneb gwyn, Mae'n sicr o ddychrynu. Os daw ynfydion ar eu taith I gynnyg dy hyfforddi, Dos di ymlaen i wneud dy waith Ynghanol eu baldorddi; Os daw celwyddau gyda'r gwynt, 'Run fath a'r gwynt darfyddant, Mae rhaffau celwydd ym mhob hynt Yn crogi'r rhai a'u nyddant. Mae'n rhaid i'r storm gael rhuo'n brudd, A ffyliaid fod yn ffyliaid, Er hynny, synwyr wel y dydd I gladdu pennau byliaid; Gan hynny rhwym dy wregys cryf Pan fflachia'r mellt yn d'ymyl, Ac edrych am yr haul yn hyf-- Mae ef tu ol i'r cymyl. Os wyt am gadw ar ffordd y gwir A gochel bradus heidiau, Gwell iti gadw'th draed o dir Gwleidyddiaeth a'i holl bleidiau; Mae "A. B. C." gwleidyddwyr tynn A "V" ar ben y wyddor, Ond main yw'r lle a geir i'r hyn A elwir yn egwyddor. Paid gwisgo'th galon ar dy fraich Os na fydd eisieu hynny, A phaid a chrymu dan dy faich, Ond cwyd dy ben i fyny; Boed gwres ymroddiad yn dy waed, A dywed trwy bob tywydd, Fod daear rhyddid dan dy draed, A Duw uwch ben yn llywydd. MIL MWY HUDOL. Byron enwog fu'n darlunio Merch a blodau yn ei llaw, Y peth tlysaf a fedd natur, Er ei chwilio drwyddi draw; A! ti fethaist, Byron ddawnus, Er dy fost, dy glod, a'th fri, Swyn i'r llygad sydd yn unig Yn dy arlun clodfawr di. Mil mwy liudol i fy nghalon Clywed merch, cartrefle swyn, Fel yn arllwys ei llais treiddgar Am ben llais piano mwyn; Seiniau natur yn ymblethu Gyda sain offeryn hardd,-- Dawn a dysg yn ymgofleidio Dodda galon dyner bardd. Wrth im' weld ei bysedd meinion Fel yn dawnsio gyda hoen, Ar allweddau yr offeryn-- Ffoai gofid, ciliai poen; Teimlwn fysedd cudd tynerwch Ar holl dannau'm calon wan, Bron na syrthiais i ber-lewyg Gan y swyn oedd yn y fan. Anwyl eneth, wrth im' wrando Ar eich llais, oedd imi'n wledd-- Gweled delw gwir brydferthwch Fel yn eistedd ar eich gwedd, Dychymygais mewn mynydyn Fod angylion Gwynfa lan, Rhwng eich dysg, eich moes, a'ch doniau, Yn eiddigus wrth eich can. O! DEDWYDD BOED DY HUN. ("Oh! happy be thy dreams"). O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun, Llawn o ddedwyddwch fo'th freuddwydion di; Y bryniau aur sydd byth dan heulog hin, A'r awyr las sy'n ddwyfol glir i ti; Fry, fry, mae ysbryd pur dy fam, Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam, Mor bur a'r ser sy'n gwylio dros dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. O! dedwydd, dedwydd, bo dy fywyd di, Mae'th fam yn gwylio'th gwsg o'r nef yn awr; A'r llaw fu'n arwain hon i'r gwynfyd fry Fo eto i'th arwain di trwy'r cystudd mawr; Bydd llygaid engyl gyda llygad mam Byth, byth, i'th gadw rhag cael unrhyw gam, Cwsg tra mae'r ser yn gwylio uwch dy lun, O! dedwydd, dedwydd, bo dy hun. 'RWY'N DOD, 'RWY'N DOD. (Just as I am). Er mwyn y gwaed, fy Iesu hael, Mae gobaith i bechadur gwael; Ac fel yr un aflana'n bod, At orsedd gras--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Ni oedaf funud awr yn hwy Heb guddio f' hun mewn marwol glwy', Wrth droed dy groes yw'r fan i fod, Fy Nghrist, fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Er cael fy nhaflu ar bob llaw, Gan ofn gelynion yma a thraw; Ac er fod ofnau cas yn bod, O fewn fy mron,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Er mod i 'n ddall, yn noeth, yn dlawd, Mae'r Hollgyfoethog imi'n frawd, A thrysor penna'r nef sy'n bod, Yng nghroes fy Nuw,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. 'Rwy'n credu'r hen addewid wiw, Fod maddeu'n nghalon dyner Duw; Cael claddu'm meiau yw fy nod, Yng nghlwyfau'r Oen,--'rwy'n dod, 'rwy'n dod. Gwnaeth cariad Crist y ffordd yn rhydd, O wlad y nos i wlad y dydd; Mae miloedd yno'n canu 'i glod, 'Rwyf finnau'r gwan, yn dod, yn dod. DIWEDD. Footnotes: {39} Ymddengys fod Cymru, tua'r amser y priododd Syr Owen Tudur a'r frenhines Catherine, a'i rhagolygon yn dra thywyll. Yr oedd Owen Glyndwr yn ei fedd ers llawer o flynyddoedd, wedi oes o ymdrech deg i gadw annibyniaeth ei genedl, a'r ymdrech honno wedi troi yn fethiant. Cynllun y Gantawd ydyw fod cynhadledd o uchelwyr a phendefigion a phendefigesau Cymru wedi ymgynnull mewn man penodol i ymdrin ac i drafod sefyllfa ddirywiedig y wlad. Dychmygir hefyd fod yno fardd a cherddor yn bresennol, fel y byddai braidd bob amser mewn cynhulliadau o'r fath yn yr oesau hynny. Pan oedd y bardd a'r telynor yn canu y pennill cyntaf yn y Gantawd, y mae cennad yn dyfod i mewn yn hysbysu fod Syr Owen Tudur yn myned i'w briodi a'r frenhines Catherine. Danghosir ychydig o wahaniaeth barn rhyngddynt yn y mater ar yr olwg gyntaf. Y mae llawer o benhillion diweddaf y Gantawd at ryddid y cerddorion i'w rhannu yn unawdau, deuawdau, neu gydganau, fel y bo eu barn a'u chwaeth. {104} Cyhoeddir trwy ganiatad Mr. Isaac Jones, Treherbert. --- Provided by LoyalBooks.com ---