Books Should Be Free is now
Loyal Books
Free Public Domain Audiobooks & eBook Downloads
Search by: Title, Author or Keyword

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II   By: (1833-1877)

Book cover

First Page:

GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II.

[Picture of Mynyddog: myn0.jpg]

RHAGAIR.

Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y mynydd trwy'n cymoedd?

Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,

"Rwy'n caru hen wlad fy nhadau Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl, Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau Gyda than yn y gan yn eu gwyl."

Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog.

Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach.

Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.

Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o brudd der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd.

Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd hwynt er eu mwyn eu hunain.

Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw.

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn.

DARLUNIAU.

Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool.

MYNYDDOG

PEN Y MYNYDD

"O dewch tua'r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai."

Y MELINYDD.

"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr A droir gan ffrwd y nant."

MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR.

Y GOF.

"Yng nghanol haearn, mwg, a than, Mae'r gof yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu can O fawl i'w wlad a'i iaith."

AWEL Y BORE.

"A charu 'r wyf yr awel wynt A hed dros Gymru gu."

HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.

"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam."

MYNYDDOG.

[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw Cydrhwng y dyn a Duw.": myn8.jpg]

HEN ADGOFION.

O na chawn fynd yn ol ar hynt Drwy'r adeg ddedwydd, iach, I brofi y breuddwydion gynt Pan oeddwn blentyn bach; Cawn syllu eilwaith oriau hir Ar flodau gwanwyn oes, Ac ail fwynhau ei awyr glir Heb gwmwl du na loes.

O na chawn dreulio eto'n llawn Yr adeg lon, ddi gur, Pan gylch fy llwybrau fore a nawn 'Roedd blodau cariad pur; Nid yw ond megis ddoe o'r bron Im gofio ienctid ffol; Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron, Ddaw'r adeg byth yn ol.

CHWI FEIBION DEWRION.

(Geiriau i'r "Marseillaise.")

Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, Clywch, clywch yr udgorn croch o draw, Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau A'i gleddyf gloew yn ei law; Mae dagrau baban gwan a'r weddw Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad, Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad O dan ei chlwyf ymron a marw; Ymlaen! ymlaen i'r gad, Dadweinied pawb ei gledd, Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad I ryddid neu i'r bedd!

Ystormydd rhyfel sy'n ymruo, Yr holl awyrgylch sydd yn ddu, Mae cledd dialedd wedi deffro, Gwae, gwae i'r holl elynol lu; Ni allwn edrych ar gelanedd Estroniaid yn arteithio'n gwlad, Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; Ymlaen!

Deffroed ysbryd hyf ein teidiau I danio mynwes ddewr pob dyn, Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un; Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu, Ond sych dy ddagrau, Walia Wen, Mae seren gobaith uwch dy ben, Daeth cledd Llywelyn i'th waredu... Continue reading book >>




eBook Downloads
ePUB eBook
• iBooks for iPhone and iPad
• Nook
• Sony Reader
Read eBook
• Load eBook in browser
Text File eBook
• Computers
• Windows
• Mac

Review this book



Popular Genres
More Genres
Languages
Paid Books